Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynigion Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus newydd - dweud eich dweud

Hoffem glywed barn rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd ynghylch pa mor effeithiol y mae'r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus presennol yng nghanol y ddinas wedi bod, a pha newidiadau yr hoffai pobl eu gweld.

Mae angen i ni benderfynu a ddylid diddymu, estyn neu ddiwygio'r gorchmynion presennol sydd ar waith yng nghanol y ddinas er mwyn helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cyn cwblhau'r arolwg, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen am y  gorchmynion presennol a sut maent wedi perfformio ers eu sefydlu.

Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

Sut mae'r gorchmynion wedi perfformio ers iddynt gael eu cyflwyno? 

Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar y stryd yng nghanol y ddinas

Fel rhan o'r broses adolygu, casglwyd a dadansoddwyd data ers dyddiad dechrau'r gorchymyn presennol (9 Rhagfyr 2021) hyd at 11 Ebrill 2024. 

Mae'r set ddata'n dangos y cafwyd 1,173 o ryngweithiadau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y stryd, lle'r oedd ymddygiad negyddol person, neu ymddygiad a allai fod wedi bod yn negyddol yn y pen draw, wedi cael ei herio a'i liniaru mewn rhyw ffordd gan staff rheng flaen (fel ceidwaid canol y ddinas a'r heddlu). Mae hyn ar y cyd â manylion allweddol pob digwyddiad yn cael eu cofnodi a'u rhannu fel cudd-wybodaeth â phartneriaid mewnol ac allanol (yr heddlu'n bennaf).

Mae dros hanner y rhyngweithiadau hyn yn ymwneud â chardota (682). Un o'r heriau allweddol ar gyfer y gorchmynion yw trin cardota mewn modd sensitif gan fod cardotwyr fel arfer yn agored i niwed. Mae hyn wedi'i wreiddio yn y cynllun presennol mewn sawl ffordd gan waith rheng flaen a swyddfa gefn. Credir bod y ffocws sy'n cael ei roi i hyn, a ddaeth i'r amlwg yn yr ymgynghoriad ar y gorchymyn gwreiddiol, yn unigryw i Abertawe, tra bo'r rhan fwyaf o orchmynion yn cael eu sbarduno gan orfodi, ac mae'r data'n dangos bod y ceidwaid wedi cyfeirio 81 o unigolion at wasanaethau cefnogi yn ystod cyfnod yr adolygiad (9 Rhagfyr 2021- 11 Ebrill 2024).

Alcohol yw'r ail gategori uchaf a nodwyd gyda 192 o achosion. Mae arwyddocâd hyn wedi'i ategu gan y ffaith y cymerwyd alcohol oddi ar bobl 188 o weithiau gan y ceidwaid, a 253 o weithiau gan Heddlu De Cymru fel mesur ataliol i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag digwydd yn y lle cyntaf neu waethygu.

Mae'r data'n dangos bod y gorchymyn wedi hwyluso camau gweithredu ehangach, gan yr heddlu yn bennaf, ar 234 o adegau ar wahân. Er enghraifft, helpu i ddelio  materion nad ydynt yn ymwneud â'r gorchmynion, fel dwyn o siopau yn ogystal â chefnogi arestiadau, mater Hysbysiadau Adran 35 a hyd yn oed gwysion i'r llys.

O ran gweithgarwch gorfodi, cymerwyd camau mewn perthynas â 425 o adroddiadau. Mae hyn yn cynnwys cyfanswm o oddeutu 380 o rybuddion ffurfiol a 35 Hysbysiad o Gosb Benodol a roddwyd, er y tynnwyd bron hanner ohonynt yn ôl. Mae'r amgylchiadau ynghylch y rhai a dynnwyd yn ôl yn gymysg. I ddechrau roedd materion yn ymwneud â hyfforddiant staff a hyder staff ynghylch y prosesau angenrheidiol. Roedd problemau i ddechrau o ran cadarnhau cyfeiriadau pobl yn ogystal â nifer o farwolaethau.

Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mynediad cyfyngedig

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod cyfyngu mynediad i'r lôn wasanaethu ar waelod St Helen's Road wedi llwyddo i leihau tipio anghyfreithlon a phroblemau cysylltiedig.  Mae hyn yn ei dro wedi lleihau'r baich ar adnoddau glanhau ac amgylcheddol y cyngor ac wedi ein galluogi i adleoli blaenoriaethau mewn man arall.

Pa newidiadau sy'n cael eu hystyried?

Mae angen i ni benderfynu a oes rhesymau i ddiddymu'r gorchmynion, eu hehangu yn eu ffurf bresennol neu eu diwygio i adlewyrchu unrhyw welliannau neu newidiadau sydd efallai eu hangen.

O ran y lôn wasanaethu ar waelod St Helen's Road, oherwydd y gostyngiad mewn tipio anghyfreithlon a materion cysylltiedig, cynigir estyn y gorchymyn fel y gellir cadw'r gât ar waelod y lôn. Fodd bynnag, mae'r gorchymyn ar y stryd yn fwy cymhleth.

Yn y pen draw, mae angen cael cydbwysedd rhwng yr hyn y mae preswylwyr a busnesau lleol am ei gael er mwyn teimlo'n fwy diogel a hapus yn eu cymunedau, wrth ganiatáu i bobl fwynhau'r hyn y mae gan yr ardal i'w cynnig ar yr un pryd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i economi'r hwyr a'r nos canol y ddinas sy'n llewyrchus, y mae alcohol yn rhan allweddol o'i hapêl.

Cliciwch yma i ddweud eich dweud ar-lein nawr

Dyddiad cau: 11.59pm, nos Sul 17 Awst 2025

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, caiff yr ymatebion i'r arolwg eu hadolygu i nodi a oes cefnogaeth barhaus ar gyfer cynllun Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yng nghanol y ddinas, ynghyd â'r themâu allweddol sy'n peri'r pryder mwyaf i bobl. Caiff y rhain eu hystyried wedyn o ran llunio sut rydym yn mynd ati i ddiddymu, ehangu neu ddiwygio'r gorchmynion presennol.

Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall e.e. print bras, ffoniwch 01792 633090 neu e-bostiwch citycentremanagement@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Gorffenaf 2025