Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus
I helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae dau Orchymyn Diogelu Mannau Agored yng nghanol y ddinas.
- Cefndir
- Lleoliadau a manylion Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Abertawe
- Cwestiynau cyffredin
- Cyfyngiadau
- Cefnogaeth a chyngor
- Rhagor o wybodaeth
Cefndir
Cafodd ein cynllun i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ddefnyddio Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus gefnogaeth helaeth mewn proses ymgynghori gyhoeddus ffurfiol. Ar ôl hynny, buom yn gweithio ar sut y dylid cyflwyno a rheoli'r gorchmynion. Dechreuodd cynllun prawf, a gyflwynwyd fesul cam, yng nghanol y ddinas ar ddechrau mis Rhagfyr 2021.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bodoli yn Abertawe, fel y mae yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd y DU. Mae ein gorchmynion yn helpu i'w leihau wrth i ni barhau i drin pobl sy'n agored i niwed gyda sensitifrwydd. Rydym yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau allgymorth a Heddlu De Cymru.
I'n helpu yn y broses hon, buom yn astudio sut mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus eraill yng Nghymru yn gweithredu, gyda lleoliadau'n cynnwys Sir Fynwy, Wrecsam a Chasnewydd.
Gorfodi yw'r dewis olaf, yn dilyn ymgysylltu ac addysg. Rydym yn parhau i gysylltu'n agos â'n partneriaid i sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu cefnogi. Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn cynyddu pwerau presennol yr heddlu.
Os yw'n rhesymol ac yn gyfiawn, mae gorchymyn Abertawe'n caniatáu i ni gyflwyno rhybuddion a hysbysiadau cosb benodedig i fynd i'r afael ag ymddygiad negyddol ar y stryd fel:
- mynd i'r toiled (troethi ac ysgarthu)
- yfed alcohol i ffwrdd o fangre drwyddedig pan ofynnir i bobl beidio â gwneud hynny
- cymryd sylweddau seicoweithredol a elwir hefyd yn gyffuriau penfeddwol cyfreithiol
- cymryd sylweddau dan reolaeth
- cardota
- ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol ac anhrefn - er enghraifft, rhegi gormodol a pharhaus, ymddygiad ymosodol, niwsans pobl ifanc ac ymddygiad bygythiol
Dan y cynllun, yn 2022 cyfyngwyd mynediad hefyd i lôn wasanaethu ar waelod St Helen's Road (y tu ôl i glwb nos Sin City).
Nod y mesurau hyn yw helpu i wneud canol y ddinas yn lle gwell i siopa, byw, gweithio, ymweld ag ef a gwneud busnes. Byddwn yn parhau i fonitro'u heffaith yn agos.
Lleoliadau a manylion Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Abertawe
- Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar y stryd canol y ddinas
Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn cwmpasu'r holl strydoedd o fewn yr ardal siopa draddodiadol sy'n cael ei phatrolio ar hyn o bryd gan Geidwaid Canol y Ddinas ynghyd ag ardal Arena Abertawe a Pharc Amy Dillwyn.
Map o Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Canol y Ddinas (PDF, 1 MB)
Arwydd Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus canol y ddinas (PDF, 247 KB)
Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus - Canol Dinas Abertawe (PDF, 1 MB)
- Lôn wasanaethu oddi ar St Helens Road
I helpu i fynd i'r afael â phroblemau hirsefydlog tipio anghyfreithlon a phlâu cysylltiedig, cyfyngir mynediad i'r lôn y tu ôl i glwb nos Sin City gan Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Mae gât ar draws y lôn, a chyfyngir mynediad i'r eiddo masnachol a phreswyl y mae angen mynediad i'r lôn arnynt. Map o'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mynediad cyfyngedig - St Helen's Road (PDF, 1 MB)
Cwestiynau cyffredin
Faint o broblem yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe?
Yn syml, dengys adborth fod pobl wedi cael llond bol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a'u bod yn osgoi mynd i rai ardaloedd yn Abertawe o'i herwydd.
Mae ein Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn cynyddu pwerau'r Cyngor - gyda chefnogaeth yr heddlu - i ymateb i bryderon am yfed, cyffuriau ar y stryd a phroblemau tebyg eraill. Mewn blwyddyn arferol, rydym yn derbyn cannoedd o gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas.
Adroddodd yr heddlu am dros 1,100 o droseddau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau'n gysylltiedig ag alcohol yng nghanol y ddinas yn y 12 mis cyn lansio'r cynllun.
Beth yw Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus?
Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn rhoi pwerau ychwanegol i'r Cyngor - gyda chefnogaeth yr heddlu - i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein strydoedd fel yfed, cardota, cymryd cyffuriau, mynd i'r toiled ac ymddygiad arall sy'n cael effaith negyddol ar ardal. Mae'n golygu y gallwn fynd ag alcohol oddi ar bobl sy'n yfed ar y stryd os ydynt yn gwrthod peidio ag yfed, rhoi rhybuddion a hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol a chymryd camau gweithredu rhagweithiol eraill gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â'r broblem.
Fe'i targedir tuag at fathau arbennig o ymddygiad yn hytrach na phobl arbennig.
Sut a phryd y cafodd Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Abertawe eu rhoi ar waith?
Cyflwynwyd y cynllun yn wreiddiol yng nghanol y ddinas ym mis Rhagfyr 2021 a dechreuodd gyda phroses o esbonio i'r cyhoedd yr hyn y mae Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn ei olygu iddynt hwy.
Yna ar ôl y broses ymgysylltu a chyflwyno gwybodaeth gychwynnol hon, ym mis Mawrth 2022 dechreuom orfodi'r gorchymyn.
Gorfodir gorchymyn canol y ddinas gan Geidwaid Canol y Ddinas Maent wedi cael eu hyfforddi'n arbennig ar gyfer y dasg ac mae ganddynt gefnogaeth yr heddlu. Mae torri'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn drosedd y gellir ymdrin â hi drwy roi hysbysiad cosb benodedig o hyd at £75, neu ddirwy o hyd at £1,000 os caiff person ei erlyn. Ym mhob achos, rhoddir rhybudd llafar ac ysgrifenedig yn y lle cyntaf.
Am ba mor hir y bydd Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Abertawe yn parhau ar waith?
Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn cwmpasu cyfnod o hyd at dair blynedd. Ar ôl hyn, rhaid eu hadolygu ac, os oes angen, eu hadnewyddu. Byddwn yn adolygu ein gorchmynion yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn gweithio'n unol â dymuniadau'r cyhoedd.
Pam y gwnaethoch chi ymgynghori ar gyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus?
Cynhaliwyd proses ymgynghori ffurfiol am ychydig dros chwe wythnos tan ddechrau 2021. Roeddem am gael gwybod beth oedd barn pobl am y syniad.
Cafodd preswylwyr, busnesau, siopwyr ac eraill gyfle i fynegi eu barn. Roeddem eisoes yn gwybod bod cefnogaeth dda ar gyfer y camau gweithredu hyn gan yr heddlu a busnesau sy'n bryderus am effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar fasnach. Roeddem hefyd yn gwybod bod preswylwyr, ymwelwyr, gweithwyr siop ac eraill yn poeni - ac yn teimlo eu bod yn cael eu dychryn - gan y math o ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn cynnwys yfed a chymryd cyffuriau ar y stryd, mynd i'r toiled yn gyhoeddus a thaflu petheuach cyffuriau ar y llawr.
Dangosodd yr adborth o'n hymgynghoriad fod cefnogaeth eang ar gyfer y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar draws sawl ardal yn Abertawe. Cafodd ei dreialu yng nghanol y ddinas i brofi pa mor effeithiol ydoedd wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a dangosodd fod gennym dîm ymroddedig o Geidwaid yn gweithio yng nghanol y ddinas a allai ei weithredu.
Pa ardaloedd y mae'n eu cynnwys?
Canol y ddinas a'r lôn wasanaethu ar waelod St Helen's Road.
Beth am y digartref a phobl eraill sy'n agored i niwed?
Nod Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yw mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol - rydym am bwysleisio nad ydynt wedi'u hanelu at bobl ddigartref sef pobl â phroblemau cymhleth gan amlaf ac sy'n haeddu cael ein cefnogaeth i'w helpu i reoli eu bywydau. Ochr yn ochr â'n partneriaid mewn elusennau digartref a phobl sy'n cysgu allan, mae'r Cyngor yn rhoi llawer iawn o adnoddau i gefnogi'r digartref, gyda gofal meddygol a chymdeithasol yn ogystal â dod o hyd i le iddynt fyw. Rydym wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau y bydd gwely bob amser yn Abertawe ar gyfer y bobl ddigartref hynny sydd am gael un.
Rydym yn gweithio'n agos gyda darparwyr allgymorth gan gynnwys Y Wallich, Barod, Dyfodol, Shelter Cymru a Crisis i sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu helpu. Maen nhw'n ymwybodol o'r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus a byddant yn chwarae rôl wrth gydlynu gweithgareddau drwy un o'n fforymau sefydledig sy'n edrych ar fod yn agored i niwed ar y stryd.
Wrth gynllunio'r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus cafwyd deialog barhaus â'n partneriaid a buom yn gwrando ar bryderon pobl yn ystod yr ymgynghoriad. Roedd yr wybodaeth hon wedi'n helpu i lunio'r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus a sut cânt eu rheoli'n ymarferol. Er enghraifft, mae staff yn derbyn hyfforddiant arbenigol ar gyfer ymdrin â phobl sy'n agored i niwed ac yn esbonio i bobl ble y gallant gael help ar gyfer materion y maent efallai'n eu profi. Bydd swyddogion tai a gwasanaethau allgymorth yn gweithio'n agos gyda'r tîm i ymgysylltu â'r rheini y mae angen cymorth ychwanegol arnynt.
Oni fydd y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus hyn yn symud y broblem i rywle arall?
Bwriedir i Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atal ei ledaeniad i leoedd eraill. Fodd bynnag, mae dadleoli'n bosib, a chaiff hyn ei asesu yn ein hadolygiadau rheolaidd o'r cynllun. Yn achos Abertawe, bwriedir i'r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus dargedu ardaloedd penodol lle cafwyd problemau hirsefydlog. Mae gwasgariad daearyddol y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn eang sy'n annog pobl i beidio â mynd i rywle arall.
Beth yw barn busnesau lleol?
Mae busnesau, fel eu staff, preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd, am weld Abertawe mwy diogel. Maent wedi cael llond bol ar yr ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n difetha rhai o'u busnesau'n uniongyrchol ond sydd hefyd yn codi ofn ar gwsmeriaid neu staff neu sy'n eu hannog i beidio â defnyddio eu siopau, eu tafarndai neu eu bwytai. Rydym wedi siarad â busnesau sy'n gweithredu yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt. Mae Ardal Gwella Busnes canol y ddinas yn gefnogol o'n Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, fel y mae eraill.
Pam y mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus wedi'u cyfyngu i ganol y ddinas yn unig?
Gwyddwn o'r ymgynghoriad fod pobl yn Nhreforys, SA1 a phen uchaf y Stryd Fawr yn awyddus ar y pryd i gael Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd y data'n dangos bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwy cyffredin yng nghanol y ddinas. Roedd gennym dîm ymroddedig o Geidwaid Canol y Ddinas hefyd a allai roi Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar waith yn ymarferol.
Pam y mae Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer y lôn wasanaethu ar waelod St Helen's Road?
Roedd y lôn y tu ôl i glwb nos Sin City a adwaenir yn lleol fel Spar Lane, yn fan poblogaidd ar gyfer tipio anghyfreithlon. Roedd yn hyll, yn risg tân ac yn berygl i iechyd. Roedd y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus wedi caniatáu i ni osod gât awtomataidd i atal mynediad ar gyfer tipio anghyfreithlon. Mae gan fusnesau a phreswylwyr y mae angen mynediad arnynt i'r ardal yn dal i gael mynediad iddi ond cyfyngir mynediad iddyn nhw'n unig.
Sut y gorfodir Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus?
Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus canol y ddinas yn cael ei weithredu ar y stryd gan Geidwaid Canol y Ddinas y Cyngor sy'n patrolio'r ardal ac sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. Gorfodi yw'r dewis olaf. Fodd bynnag, ni fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef ac mae gan y Ceidwaid gefnogaeth yr heddlu lle y gall fod angen cymryd camau mwy pendant.
Beth sy'n cael ei gynnwys yng Ngorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Abertawe?
Caiff cydbwysedd ei daro rhwng yr hyn y mae preswylwyr a busnesau am ei gael i deimlo'n ddiogel wrth ganiatáu i bobl fwynhau'r hyn y mae gan ardaloedd i'w gynnig. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i economi'r hwyr a nos canol y ddinas sy'n llewyrchus.
Mae'r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn ychwanegu at ac yn helpu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn y rheolau a'r rheoliadau presennol - fel pwerau presennol yr heddlu ac is-ddeddfau lleol sydd eisoes yn ymdrin â gweithredoedd fel taflu sbwriel a baeddu gan gŵn.
Mae'r Cyngor yn arwain y cynigion hyn i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleol. Maent yn ategu'r ymagwedd amlasiantaeth sefydlog ar gyfer y rheini sy'n agored i niwed y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt.
Cyfyngiadau
Yfed alcohol ar y stryd yn yr awyr agored
Dan y rheolau, mae'n drosedd i berson yfed alcohol pan ofynnir iddo beidio â gwneud hynny gan swyddog awdurdodedig.
Nodwyd problemau gyda phobl yn cyrraedd, yn cerdded o gwmpas ac yn ymgasglu mewn grwpiau mewn mannau cyhoeddus ac yn yfed o gynwysyddion alcohol sydd ar agor. Mae pobl dan ddylanwad alcohol wedi ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol. Mae'r cyfyngiad hwn yn golygu y gall yfed alcohol gael ei ffrwyno'n ffurfiol o fewn ffiniau mangreoedd trwyddedig yn unig (gan gynnwys yr ardaloedd caffi awyr agored dynodedig). Mae hefyd yn darparu pwerau i swyddogion dynodedig fynd ag alcohol oddi ar bobl fel mesur rhagweithiol i helpu i atal yr ymddygiad rhag gwaethygu. Gall methu ag ildio arwain at gyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £75.
Cardota
Yn aml, mae angen cymorth a chefnogaeth hirdymor ar bobl sy'n cardota. Mae mesurau ar waith yn lleol i helpu'r rheini y nodwyd eu bod yn agored i niwed. Er hynny, gall cardota fod yn fygythiol i'r cyhoedd ac mae'n creu argraff wael o ardal. Mae tystiolaeth hefyd o gardota ymosodol a chardotwyr proffesiynol sy'n camarwain y cyhoedd o ran eu bwriad, a gall fod yn anodd sylwi ar gardota goddefol.
Gan nad yw cardota'n anghyfreithlon mwyach (o gofio bod y Ddeddf Crwydradaeth wedi'i diddymu), mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn offeryn pwysig i helpu i reoli cardota'n rhagweithiol yn lleol.
Dim cymryd sylweddau a reolir na sylweddau seicoweithredol/penfeddwol cyfreithiol
Fel yn nhrefi a dinasoedd eraill y DU, mae adroddiadau niferus am bobl yn cymryd cyffuriau drwy wythïen yn agored ar y strydoedd, yn ogystal â smygu neu snwffian cyffuriau, a chymryd sylweddau penfeddwol cyfreithlon sy'n gallu bod yr un mor niweidiol. Mae nifer y chwistrellau a'r petheuach cyffuriau sy'n cael eu casglu'n cynyddu.
Gall unigolion dan ddylanwad cyffuriau a sylweddau eraill fod yn ymosodol ac yn fygythiol i'r cyhoedd. Gallant hefyd beryglu eu hunain.
Fel sy'n wir gyda chardota, mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda sawl asiantaeth cymorth cyffuriau sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau cefnogi i'r rheini sy'n gaeth i gyffuriau.
Dim troethi nac ysgarthu'n gyhoeddus
Derbyniwyd cwynion am achosion o bobl yn mynd i'r toiled yn agored yng ngolwg y cyhoedd. Mae troethi cyhoeddus yn broblem sy'n arbennig o berthnasol i economi'r hwyr a'r nos.
Yng nghanol y ddinas yn y nos, defnyddir wrinalau cyhoeddus ar adegau allweddol i ddarparu cyfleusterau ychwanegol amgen. Fodd bynnag, mae troethi'n gyhoeddus yn parhau i fod yn broblem; mae'n achosi problemau i dimau glanhau'r Cyngor a busnesau sy'n gorfod glanhau'r llanast sy'n cael ei adael ar ôl.
Mae mynediad digonol i gyfleusterau toiled cyhoeddus ar draws canol y ddinas gan gynnwys y rheini a redir gan y Cyngor yn ogystal â'r rheini mewn siopau, bariau a bwytai lleol.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol/anhrefn cyhoeddus
Er bod y cyfyngiadau uchod yn ddigon penodol, mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Agored hefyd yn caniatáu ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n achosi aflonyddwch, braw neu ofid. Mae rhegi gormodol a pharhaus, niwsans pobl ifanc ac ymddygiad ymosodol neu fygythiol ymhlith yr ymddygiadau negyddol a allai arwain at rybudd neu hyd yn oed hysbysiad cosb benodedig.
Mynediad cyfyngedig i lonydd a llwybrau cerdded cyhoeddus
Cyfyngir mynediad i safle penodol ar gyrion canol y ddinas.
Mae'r lôn wasanaethu ar waelod St Helen's Road wedi dioddef tipio anghyfreithlon ers amser maith, sy'n achosi problemau gyda llygod mawr a phlâu eraill. Mae system mynediad a reolir wedi'i gosod felly ar gyfer y busnesau a'r preswylwyr y mae angen mynediad arnynt.
Bydd rheoli mynediad i'r lleoliad hwn wedi lliniaru'r problemau ac wedi galluogi'r Cyngor a'i bartneriaid i ailddyrannu adnoddau, er enghraifft, i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i'r rheini y mae'r mesurau'n effeithio arnynt.
Cefnogaeth a chyngor
Gwasanaethau'r cyngor a all helpu:
Gallwch hefyd chwilio'n rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol, sy'n cynnig ystod o help:
- Chwiliwch y rhestr lawn o sefydliadau lleol a chenedlaethol
- Help gyda mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol/cyffuriau
- Help gyda digartrefedd
- Help gyda phroblemau iechyd meddwl
Rhagor o wybodaeth
Gellir e-bostio unrhyw ymholiadau am Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus canol y ddinas i citycentremanagement@abertawe.gov.uk