Arolwg boddhad tenantiaid 2025: dweud eich dweud
Hoffem glywed eich barn am y gwasanaeth tai. Mae eich barn yn bwysig iawn i ni gan ei fod yn ein helpu i barhau i wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.
Os oes angen yr arolwg hwn mewn fformat gwahanol arnoch e.e. Print bras e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635045.
Drwy gwblhau a dychwelyd ein harolwg, gallwch gael eich cynnwys mewn cystadleuaeth raffl am ddim i ennill un o dri cherdyn rhodd gwerth £100.
Sylwer, mae'r arolwg yn ddienw. Os oes gennych unrhyw broblemau yr hoffech gael cymorth gyda nhw, cysylltwch â'ch swyddfa dai ardal leol gan na fyddwn yn ymdrin ag unrhyw ymholiadau/gwynion.
Ni fydd yn cymryd llawer o amser i gwblhau'r arolwg hwn. I gael eich cynnwys yn y gystadleuaeth raffl, bydd angen i chi roi eich enw a'ch manylion cyswllt ar ddiwedd yr arolwg - bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw'n gyfrinachol ac ni chaiff ei defnyddio fel rhan o ddadansoddiad yr arolwg.
Cliciwch yma i lenwi'r arolwg ar-lein nawr
Dyddiad cau: 11.59pm, nos Sul 23 Tachwedd 2025
Ffyrdd eraill o lenwi'r arolwg:
- Galwch heibio'ch swyddfa dai ardal leol a gofynnwch am arolwg - gallwch hefyd gyflwyno eich ffurflen wedi'i llenwi yno.
- Gallwch ofyn i ni bostio un atoch - e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635043.
- Os ydych yn byw yn un o'n cynlluniau byw'n annibynnol, bydd eich Swyddog Byw'n Annibynnol yn rhoi copi i chi a bydd yn ei ddychwelyd ar eich rhan hefyd.
Amodau a thelerau
- Mae'r arolwg a'r gystadleuaeth ar agor i denantiaid Cyngor Abertawe yn unig.
- Dim ond un cais y gellir ei gyflwyno fesul tenant.
- Os na allwch gyflwyno'r arolwg eich hun, gallwch ofyn i berson arall wneud hynny ar eich rhan.
- Mae'n rhaid i ni dderbyn yr holl geisiadau cyn 11.59pm nos Sul 23 Tachwedd 2025.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag Alison Winter, Swyddog Cyfranogiad:
- alison.winter@abertawe.gov.uk
- 01792 635043