Arolygu'ch gwaith adeiladu
Ar ôl i chi gyflwyno hysbysiad adeiladu neu gynlluniau llawn, gallwch ddechrau ar y gwaith ar unrhyw bryd, ond mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni pan fyddwch yn cyrraedd camau penodol o'r gwaith. Yna bydd swyddog rheoli adeiladau'n dod i ymweld â'r safle.
Cysylltwch â Rheoli Adeiladau Abertawe ar y camau canlynol er mwyn trefnu arolygiad. Sicrhewch eich bod yn rhoi digon o rybudd i ni fod y gwaith yn dechrau fel y gallwn drefnu'r arolygiad. Mewn rhai achosion, os ydych yn cysylltu â ni cyn 9.30am byddwn yn ymweld â chi ar yr un diwrnod lle bo'n bosib.
Dylech gysylltu â ni drwy ffonio 01792 635636.
- Dechrau'r gwaith - cysylltwch â ni ddeuddydd cyn i'r gwaith ddechrau.
- Cyn gosod seiliau concrit - cysylltwch â ni 1 diwrnod cyn.
- Cyn gorchuddio'r draenio - cysylltwch â ni 1 diwrnod cyn.
- Cyn gorchuddio pilen wrthleithder - cysylltwch â ni 1 diwrnod cyn.
- Cwblhau'r gwaith - cysylltwch â ni unwaith y mae'r gwaith wedi'i orffen. Dylid gwneud hyn o fewn 5 niwrnod i orffen y gwaith.
- Os oes angen i'r gwaith fodloni Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 - cysylltwch â ni 5 niwrnod cyn bod yr adeilad yn cael ei feddiannu.
Efallai y cynhelir arolygiadau ychwanegol os oes angen, neu os ydych wedi gofyn am un. Bydd hyn yn cynnwys lefel silff ffenestr, lefel lintel, lefel walblat a tho, larwm tân etc.
Sylwer
Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â'r Swyddog Rheoli Adeiladau ar bob cam a nodwyd uchod pan fydd y gwaith yn barod i'w arolygu.Gallwch naill ai wneud hyn eich hun neu ofyn i'ch adeiladwr neu asiant ei wneud.
Os nad ydych yn darparu hysbysiad o'r camau uchod efallai y byddwch yn derbyn dirwy ddiderfyn ar gyfer pob trosedd, ac mae o fudd pennaf i chi sicrhau bod yr holl swyddogion yn cael eu hysbysu.
Os ydych chi'n cyflogi trydanwr nad yw'n rhan o gynllun hunanardystio, eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â'r Swyddog Rheoli Adeiladau ar ddechrau'r gwaith trydanol.