Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau a reoliadau adeiladu

Os ydych yn bwriadu adeiladu adeilad newydd neu estyniad neu newid adeilad presennol, yna bydd rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau adeiladu yn y rhan fwyaf o achosion.

Efallai na fydd angen cyflwyno cais am gynlluniau llai a dylech wirio'n tudalen Adeiladau wedi'u heithrio o reoliadau adeiladu am fwy o wybodaeth.

Darllenwch yr wybodaeth isod i wirio pa fath o gais mae'n rhaid ei gyflwyno. Gall Rheoli Adeiladau Abertawe roi cyngor i chi cyn i chi gyflwyno cais. 

Arolygu'ch gwaith adeiladu

Ar ôl i chi gyflwyno hysbysiad adeiladu neu gynlluniau llawn, gallwch ddechrau ar y gwaith ar unrhyw bryd, ond mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni pan fyddwch yn cyrraedd camau penodol o'r gwaith. Yna bydd swyddog rheoli adeiladau'n dod i ymweld â'r safle.

Cymeradwyaeth ôl-weithredol o waith adeiladu

Os ydych wedi gwneud gwaith heb dderbyn cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu'n gyntaf, yna gallwch wneud cais am gymeradwyaeth ôl-weithredol. Gelwir y broses hon yn rheoleiddio.

Waliau cynnal

Os ydych chi'n adeiladu wal sy'n cynnal tir dros 1.5m mewn uchder, bydd angen i chi gyflwyno cais. Mae hyn yn berthnasol i waliau cynnal newydd neu estyn un sydd eisoes yn bodoli.

Ffioedd rheoliadau adeiladu

Rhennir y ffïoedd rheoliadau adeiladu'n ffïoedd cynllunio ac archwilio, ffïoedd hysbysiadau adeiladu a ffïoedd rheoleiddio. Maent yn wahanol i bob math o waith.

Submit-a-Plan - Cyflwyno cynlluniau ar-lein i awdurdodau lleol

Mae Submit-a-plan.com yn caniatáu i chi greu eich cais rheoliadau adeiladu ar-lein. Gallwch anfon eich cais, eich cynlluniau a dogfennau eraill i unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Close Dewis iaith