Toglo gwelededd dewislen symudol

Oedolion Hŷn Actif

Gweithgarwch corfforol a chwaraeon i bobl dros 60 oed yn Abertawe.

Active Older Adults (IS)

Active Older Adults Tai Chi Class
 Mae'n destun cyffro i ni gyfrannu at ymgyrch ledled Cymru i ennyn brwdfrydedd oedolion hŷn dros chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae'r Cynllun Hamdden Actif i Bobl 60+ oed yn helpu pobl dros 60 oed i symud mwy a bodloni'r canllawiau gweithgarwch corfforol a argymhellir gan Brif Swyddog Meddygol y DU drwy gynyddu'r cyfleoedd iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol er mwyn byw bywydau iachach a hapusach. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Rydym yn gweithio gyda'n clybiau chwaraeon lleol a'n partneriaid, gan gynnwys Freedom Leisure (Yn agor ffenestr newydd) i ddatblygu rhaglen llawn gweithgareddau amrywiol a difyr ar draws Abertawe.

O ddringo creigiau a gweithgareddau aerobeg llai heriol i droeon iechyd yn y gymuned, yn ogystal â T'ai Chi, cerdded Nordig a gweithgareddau ffitrwydd llai heriol, mae amrywiaeth o sesiynau sy'n addas i bawb.

Edrychwch ar y rhestr lawn o weithgareddau a chadwch le

Cyflwynir mwy o ddosbarthiadau gan Freedom Leisure, a gallwch fod yn rhan o'r Gymuned Actif - byddwch yn egnïol, yn gymdeithasol ac yn driw i chi eich hun! 

Cymerwch gip ar yr amserlen yma: Freedom Leisure Older Adults (Yn agor ffenestr newydd). Gallwch gadw lle ar-lein yma: Freedom Leisure Hub log in (Yn agor ffenestr newydd).

Cyfleoedd ychwanegol i fod yn actif yn Abertawe:

60+ Active Leisure Scheme logo
Cysylltu â ni... Chwaraeon ac Iechyd Abertawe

Hoffem i chi gymryd rhan...

Rydym yn gobeithio eich gweld yn fuan ar gyfer un o'n gweithgareddau. Cofiwch ein dilyn ar Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd), Chwaraeon ac Iechyd Abertawe X (Yn agor ffenestr newydd), Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Instagram (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe YouTube (Yn agor ffenestr newydd) a chofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Chwaraeon ac Iechyd i glywed ein newyddion a chael rhagor o wybodaeth amdanom cyn gynted ag y bydd y rhain ar gael. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Gorffenaf 2024