Cerdded
Mae digon o ddewis i gerddwyr yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr. Mae popeth ar gael yno, o bromenadau gwastad a pharcdir ar gyfer tro hamddenol i deithiau cerdded mwy heriol dros draethau, gweundir a thrwy goedwigoedd hynafol.

Mae'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn cynnwys 268 o filltiroedd (431km) ar Benrhyn Gŵyr yn unig ac mae llawer mwy yng ngweddill ardal Bae Abertawe. Mae nifer o deithiau cerdded sy'n addas i bobl o bob gallu a lefel ffitrwydd - un i'w hystyried yw Ffordd Gŵyr, taith gerdded 35 milltir drawiadol.
Gyda holl fanteision cerdded, nid oes esgus am beidio â mynd allan a mwynhau'r awyr agored a'r golygfeydd o'n cwmpas. Gallwch gael gwybod popeth y mae ei angen arnoch am gadw'n iach drwy gerdded gyda thaith gerdded dan arweiniad, llwybrau cerdded hirsefydlog y gallwch roi cynnig arnynt, neu drwy ymuno ag un o'r grwpiau cerdded pwrpasol yn ardal Bae Abertawe.
Ymunwch â Fforwm Cerdded Abertawe ar Facebook.
Teithiau cerdded trefol
Teithiau cerdded yng nghefn gwlad
Grwpiau cerdded
Cadw'n iach trwy gerdded
Swyddog datblygu cerdded
- Enw
- John Ashley
- Teitl y Swydd
- Walking Development Officer
- E-bost
- John.Ashley@abertawe.gov.uk
Cerdded yn agos i dda byw
Hawliau tramwy

Rhannwch gyda gofal
