Toglo gwelededd dewislen symudol

Croeso 2025 mewn cydweithrediad a Tomato Energy

28 Chwefror - 1 Mawrth, St. David's Place, Canol Dinas Abertawe

Croeso

Croeso
Gŵyl ddeuddydd yw Croeso sy'n dathlu popeth Cymreig a gynhelir yng nghanol dinas Abertawe ddydd Gwener 28 Chwefror i ddydd Sad 1 Mawrth 2025.

Bydd digwyddiad eleni'n cynnwys diwylliant Cymreig lleol o'r radd flaenaf, gan gynnwys:

  • Bwyd a diod
  • Arddangosiadau coginio
  • Cerddoriaeth fyw
  • Adloniant ar y stryd
  • Gweithdai
  • Celf a chrefft

Rhagor o wybodaeth (Yn agor ffenestr newydd)

Oes gennych ddiddordeb mewn noddi'r digwyddiad hwn?

Mae cyfleoedd nawdd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn.  Mae pecynnau ar gael sy'n addas i bob cyllideb y gellir eu teilwra i ddiwallu'ch anghenion a'ch amcanion.  I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, e-bostiwch  commercial@swansea.gov.uk

Mewn cydweithrediad a

Croeso 2025 sponsors

 

Tomato Energy - Prif noddwr

Mae Tomato Energy yn gwmni ynni arloesol sy'n chwyldroi'r sector ynni domestig. Drwy dariffau clyfar hynod bersonoledig a blaengarwch i sicrhau bod cynaliadwyedd yn hygyrch, mae Tomato Energy yn chwyldroi'r ffordd y mae pobl yn cael eu trydan. Yn ogystal â thariffau wedi'u teilwra, mae Tomato Energy yn cynnig paneli solar a storfeydd batri i berchnogion tai ar sail cost sefydlog, heb unrhyw gostau ymlaen llaw ar gyfer y cyfarpar, a biliau sefydlog am 5 mlynedd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.tomato.energy/

Nathaniel Cars - Noddwr y Babell Fawr Bwyd a Diod

Mae Nathaniel Cars yn falch o noddi'r Babell Fawr Bwyd a Diod yn nigwyddiad Croeso eto eleni.

Sefydlwyd Nathaniel Cars dros 40 mlynedd yn ôl ac mae wedi helpu miloedd o gwsmeriaid gyda'u hanghenion moduro dros y cyfnod hwn. Rydym yn brif werthwr ceir MG ac mae gennym ystafelloedd arddangos ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Cwmbrân a'r llynedd agorom ein pedwaredd ystafell arddangos yn Abertawe (Clos Llyn Cwm, SA6 8QY).  Mae gennym dros 350 o geir ail law mewn stoc grŵp hefyd, felly mae gennym rywbeth i ddiwallu anghenion pawb.

Dewch draw i weld ein stondin yn Stryd Rhydychen yn ystod digwyddiad Croeso, lle gallwch sgwrsio â'n staff a chael cip ar rai o'n modelau MG diweddaraf.

First Bus - Partner Teithio

"Ni yw eich gwasanaeth bysus lleol, ond rydym yn fwy na ffordd o fynd o A i B yn unig.

Mae bysus yn dod â phawb ynghyd - maent yn cysylltu cymunedau, yn agor drysau i gyfleoedd ac yn gwneud bywyd yn fwy hygyrch. Dyma'r dewis cynaliadwy, y dewis sy'n addas i'ch cyllideb, a'r dewis i bawb, ni waeth pwy ydych neu i ble rydych yn mynd.

Rydym yn gwybod nad ydym yn berffaith. Nid ydym bob amser yn gwneud pethau'n iawn ac ni allwn fynd â chi i bobman. Ond mae bysus yma bob amser, yn cynnig ffordd ddibynadwy a chroesawgar o deithio. Nid ydynt yn gofyn cwestiynau nac yn barnu oherwydd eu bod yno i bawb, bod dydd.

Diolch am deithio gyda ni a bod yn rhan o'r hyn sy'n gwneud ein gwasanaeth yn fwy na chludiant yn unig. Gyda'n gilydd, rydym yn creu cysylltiadau sydd o bwys."

Y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant - cefnogi'r Llwybr i Blant

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru: Help gyda chostau gofal plant i rieni cymwys â phlant 3 i 4 oed.

Oes angen help arnoch gyda chostau gofal plant? Dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r cynllun gofal plant hwn a ariennir gan y llywodraeth yn ceisio lleihau'r baich o dalu costau gofal plant fel y gallwch wario'r arian rydych wedi'i gynilo ar y pethau sydd bwysicaf i'ch teulu.

Mae'r cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg. Os ydych yn chwilio am swydd neu'n ystyried dychwelyd i fyd addysg neu hyfforddiant, ond rydych yn pryderu am gostau gofal plant, gallai'r cymorth hwn wneud byd o wahaniaeth.
Peidiwch â cholli'ch cyfran chi o'r cyllid gofal plant.

https://www.llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-ymgyrch

Ap Calon Fawr, a bwerwyd gan BID Abertawe

Arweiniad Ymwelwyr Gorau Canol Dinas Abertawe

Siop dan yr unto i unrhyw sy'n ymweld â chanol y ddinas yw Ap Calon Fawr Abertawe. Os ydych yn breswylydd neu'n ymwelydd, Ap Calon Fawr Abertawe yw'r lle i fynd i weld popeth sydd gan Abertawe i'w gynnig.

Cewch fynediad at y canlynol:

  • Cynigion arbennig - Cynigion a gostyngiadau oddi wrth siopau canol y ddinas, bwytai, bariau a mwy
  • Arweiniad ar Fwytai - Yr arweiniad gorau ynghylch bwytai yng nghanol dinas Abertawe
  • Arweiniad Digwyddiadau - Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf gyda digwyddiadau, perfformiadau a gweithgareddau byw
  • Gwasanaethau'r Ddinas - Lleoliad toiledau cyhoeddus, lleoedd parcio a llawer mwy
    Cyfeiriadur Busnesau Cynhwysfawr - Rhestr o'r holl fusnesau yng nghanol dinas Abertawe
  • Cynllun Billy Chip - Dewch o hyd i leoedd i brynu a hawlio tocynnau Billy Chip. Chwaraewch eich rhan wrth gefnogi'r rheini sydd mewn angen
  • Lleoliadau Diffibrilwyr - Darganfyddwch ble i ddod o hyd i offer achub bywyd.

Cymerwch gip ar ap Calon Fawr heddiw <https://app.bigheartofswansea.co.uk/login?utm_source=BigHeartApp&utm_medium=CroesoFestival&utm_campaign=CroesoFestival> a'i hychwanegu at sgrin hafan eich ffôn symudol neu lechen i gael mynediad hawdd!

Social media:

Gwedudalen:

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Chwefror 2025