Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffotograffiaeth Digidol am Ddechreuwyr Llwyr [Dydd Llun, 9.30am-12.30pm] - DL042486.AH

Ni restrir enghreifftiau ar gyfer y digwyddiad hwn ar hyn o bryd

Hyd - 7 wythnos

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i ffotograffiaeth ddigidol i ddechreuwyr a bydd yn helpu myfyrwyr i ddeall eu cyfarpar a swyddogaethau eu camerâu.

Bydd y cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sy'n hollol newydd i ffotograffiaeth ddigidol. Caiff sesiynau eu cynnal wyneb yn wyneb. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymarfer yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu rhwng y sesiynau ac efallai bydd tasgau'n cael eu gosod i gynorthwyo'u dysgu. Mae'n bosib y cynhelir teithiau maes 2/3 dosbarth fel rhan o'r cwrs 7 wythnos hwn.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Prif foddau'r camera a gosodiadau'r ddewislen.
  • Gosodiadau â llaw.
  • Cyfansoddiad - ffurf, llinell a lliw.
  • Deall egwyddorion ffotograffig sylfaenol.
  • Deall cyflymder caead y 'Triongl Dinoethiad', ISO a'r agorfa (hyd ffocws y lens a dyfnder ffocws).
  • Sut i gael dinoethiad da - a chael rheolaeth greadigol.
  • Dilynir ffotograffiaeth taith maes gan ddadansoddi delweddau, adborth a thrafodaeth.
  • Lensys: teleffoto, ongl lydan a chlosio
  • Ffotograffiaeth lens graff (golwg agos).
  • Lanlwytho delweddau i'ch cyfrifiadur a rheoli ffeiliau yn ôl y gofyn.
  • Cyflwyniad i brif ddefnyddiau meddalwedd golygu delweddau; Photoshop, Paint.net a Gimp.org.

Darperir taflenni y gellir eu hargraffu yn ystod y sesiynau. Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Fformat dysgu: Wyneb yn wyneb a dwy daith maes posib.

Côd y cwrs: DL042486.AH

Amserau eraill

Dim enghreifftiau o hyn