Trên Bwganod Nos Galan Gaeaf
39 - 31 Hydref 2024
Ffordd frawychus o weld y bae. Ydych chi'n ddigon dewr i deithio ar drên yr ysbrydion?
Ewch ar daith arswydus y Calan Gaeaf hwn wrth i Drên Bach Bae Abertawe fynd ar daith frawychus ar hyd y promenâd.
Bydd y trên bach poblogaidd hwn wedi'i addurno'n frawychus ddydd Mawrth 29 - dydd Iau 31 Hydref, felly dewch yn eich gwisgoedd Calan Gaeaf gorau i fwynhau'r amgylchedd arswydus.
Bydd y trên yn gadael Lido Blackpill ac yn teithio am oddeutu 30 munud cyn dychwelyd i Lido Blackpill.
Amserau'r teithiau: 16.30, 17.00, 17.30, 18.00, 18.30.
Tocynnau £7.
Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw felly archebwch nawr i osgoi cael eich siomi.