Y Cynllun Uwchraddio Boeleri
Mae'r Cynllun Uwchraddio Boeleri'n darparu grantiau i annog perchnogion eiddo i osod systemau gwresogi carbon isel, mwy effeithlon yn lle systemau gwresogi tanwydd ffosil presennol.
Trwy Gynllun Uwchraddio Boeleri Llywodraeth y DU, gallwch dderbyn grant i dalu rhan o'r gost o osod pwmp gwres neu foeler biomas yn lle systemau gwresogi tanwydd ffosil.
Mae systemau gwresogi tanwydd ffosil yn cynnwys olew, nwy, trydan neu nwy petrolewm hylifedig (LPG).
Yr hyn y gallwch ei dderbyn
Gallwch dderbyn un grant fesul eiddo. Mae grantiau ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y canlynol:
- £7,500 tuag at bwmp gwres ffynhonnell aer
- £7,500 tuag at bwmp gwres o'r ddaear (gan gynnwys pympiau gwres o'r dŵr a'r rheini ar ddolenni yn y ddaear a rennir)
- £5,000 tuag at foeler biomas
Ni fyddwch yn gallu derbyn grant ar gyfer system pympiau gwres hybrid (er enghraifft cyfuniad o foeler nwy a phwmp gwres ffynhonnell aer).
Mae'n rhaid i'r system rydych chi'n ei gosod fodloni safonau penodol, er enghraifft isafswm o ran lefelau effeithlonrwydd (gall eich gosodwr eich cynghori ar y rhain).
Yr uchafswm gallu cynhyrchu ar gyfer systemau unigol yw 45kWth a 300kWth ar gyfer dolenni yn y ddaear a rennir.