Gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni
Cyngor a chyllid i helpu i arbed ynni ac arian yn eich cartref.
Rydym yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni gwael yn ein stoc tai yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo Llywodraeth y DU i gyflawni'r targed o allyriadau sero net erbyn 2050 a dyma un o'n blaenoriaethau allweddol wrth i ni gydnabod ei bwysigrwydd a bygythiad byd-eang newid yn yr hinsawdd.
Ffyrdd syml o arbed arian ar eich biliau ynni
- Trowch eich thermostat i lawr 1 radd
- Llenwch unrhyw le gwag yn eich rhewgell â phapur newydd wedi'i rolio
- Tynnwch eich llenni adeg y cyfnos
- Diffoddwch y goleuadau mewn ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio a defnyddiwch fylbiau sy'n arbed ynni
- Peidiwch â gadael teclynnau mewn modd segur
- Peidiwch â llenwi'r tegell â dŵr diangen
- Rhowch lwyth llawn mewn peiriannau golchi a sychu oni bai fod gennych osodiadau hanner llwyth
- Peidiwch â gadael i dapiau ddiferu, yn enwedig tapiau dŵr poeth
- Caewch ddrysau i gadw gwres mewn ystafelloedd
- Addaswch y system rheoli gwres (gweler cyfarwyddiadau penodol am wres) 21°c yn ystafell fyw 18°c mewn mannau eraill
Grantiau a chyngor effeithlonrwydd ynni
Cael help gydag effeithlonrwydd ynni (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Dod o hyd i grantiau ynni a ffyrdd o arbed ynni yn eich cartref (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)