Drysau Agored Castell Ystumllwynarth
Dydd Sadwrn 9 Medi
11.00am - 5.00pm
Y mis Medi hwn, mae Castell Ystumllwynarth yn ymuno â thros 200 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a thrysorau cudd Cymru i gynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr.
Mae'r cyfan yn rhan o ddigwyddiad Drysau Agored - cyfraniad blynyddol Cymru at y fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, sy'n gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau neu gynnig gweithgareddau i'r cyhoedd am ddim yn ystod mis Medi.
Am ddiwrnod yn unig, bydd mynediad i'r castell AM DDIM gyda theithiau tywys a chymeriadau yn cerdded o gwmpas.