Castell Bwganllyd
Dydd Sadwrn 25 Hydref, 11am - 4pm, Castell Ystumllwynarth


Bydd digwyddiad Y Castell Arswydusddydd Sadwrn 25 Hydref yn cynnwys canu a dawnsio gan Mal, Evie a Cruella De Vil, sioe bypedau fwganllyd a dwl a Gwrach Wallgof y Mwmbwls (Hyacinth Belly-Scratcher) a'i phartner (Betty Bricklayer). Yna bydd gweithgaredd 'Bubble Trubble' a chwtsh gan Dave y Ddraig, ynghyd â'ch holl hoff ystafelloedd arswydus, rhai'n cynnwys bwyd ych a fi, mwydod gwinglyd neu ellyllon drewllyd. Yna mae gennym y bwrdd bwyta bwganllyd ac ystafell grefft i greu rhywbeth gwirioneddol frawychus i fynd ag ef adref, ac mae'n addas i bob oedran.
Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch: eventsoystermouthcastle@yahoo.com