Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth
Nos Iau 31 Hydref - Nos Wener 1 Tach, Castell Ystumllwynarth
Dewch ar daith sy'n llawn dirgelwch, ffeithiau a digwyddiadau iasoer wrth i chi ddarganfod Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth.
Mae Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth yn daith gerdded arswydus yn llawn straeon am ddigwyddiadau iasol sydd wedi, neu sy'n dal i ddigwydd yn y castell, wedi'u cyfuno â llên gwerin a straeon sydd wedi'u trosglwyddo gan genedlaethau o bobl leol y Mwmbwls.
I'r rheini ohonoch o natur hynaws, does dim eiliadau i godi ofn arnoch, dim sombïaid, ellyllon neu fwyellwyr lloerig, dim ond straeon yn y castell. Fodd bynnag, pwy a ŵyr, efallai bydd yr Arglwyddes Wen yn cadw llygad barcud arnom!
Hwch Ddu Gwta a Ladi Wen heb ddim pen
Hwch Ddu Gwta a gipio'r ola'
Hwch Ddu Gwta nos G'langaea
Lladron yn dŵad tan weu sana.
Dyddiadau ac amserau:
Nos Iau 31 Hydref, 6pm
Nos Iau 31 Hydref, 8pm
Nos Wener 1 Tachwedd 6pm
Nos Wener 1 Tachwedd 8pm
Hyn a hyn o docynnau sydd ar gael, felly archebwch nawr i osgoi siom. Tocynnau - £12 yr un. Defnyddir themâu oedolion drwy gydol y digwyddiad hwn er y derbynnir plant aeddfed dros 12 oed yng nghwmni oedolyn. Sylwer: mae'n gastell; mae'n dywyll ac yn llaith ac mae ambell risyn ond dim grisiau. Mae ochr dywyll Castell Ystumllwynarth yn daith gerdded arswydus yn llawn straeon a llên gwerin am y castell.