Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymuned Pobl Dduon Abertawe o ganol y 18fed ganrif

Mae ardal Gorllewin Morgannwg wedi bod yn gartref i amrywiaeth o gymunedau dros amser. Ceir cryn dystiolaeth o rai ohonynt yn y cofnod hanesyddol, ond dim ond trwy gyfeiriadau byr y gwyddwn am eraill.

Ystyriwch y cofnodion hyn yng nghofrestrau plwyf Abertawe er enghraifft. Yn un ohonynt, wrth gofnodi bedydd John Jones, crwt 12 oed, ym 1745, mae'r ficer wedi ychwanegu'r geiriau "a Black." Pe na bai wedi gwneud hyn, ni fyddem erioed wedi gwybod am hyn. Bu farw Elizabeth Saunders ym 1790 ac mewn cofnod am ei chladdedigaeth, nododd y ficer hefyd ei bod yn ddu. Yn yr un modd ym 1801, pan briodwyd Joseph Roberts a Harriet Thomas yn Eglwys y Santes Fair yn Abertawe, ychwanegodd y ficer, Miles Bassett, nodyn yn Gymraeg sef "dyn du ydoedd,"

Nid oedd gofyniad i nodi hil person yng nghofrestrau'r plwyf; mae'n rhywbeth yr oedd ficeriaid yn ei gofnodi oherwydd bod ganddynt ddiddordeb ynddo. Nid oes dim am yr enwau hyn yn awgrymu ethnigrwydd a phe nai bai'r wybodaeth ychwanegol wedi cael ei chofnodi, ni fyddem byth wedi gwybod am hyn.

Rydym wedi dod o hyd i naw cofnod fel hyn yng nghofrestrau plwyf Abertawe, yn dyddio o 1745 i 1814, a dim yn y plwyfi eraill yn ein hardal. Does dim amheuaeth fod yna gymuned pobl dduon yn Abertawe yn y 1700au. Mae'n debygol bod eraill wedi'u henwi yn y cofrestrau, nad yw eu hethnigrwydd wedi'i gofnodi. Ni fyddwn byth yn gwybod faint, na phwy oeddent.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Hydref 2023