Sgiliau TG ar gyfer Gwaith a Bywyd [Dydd Llun 6.00pm-8.00pm] - DL042498.NE
Enillwch y sgiliau TGCh i weithredu a symud ymlaen mewn gwaith, addysg a bywyd bob dydd, gan ddefnyddio Technoleg Ddigidol er eich budd chi. Defnyddiwch gymwysiadau meddalwedd prosesu geiriau ac archwiliwch yr offer i olygu a fformatio dogfennau. Dylunio, paratoi a darparu cyflwyniadau digidol ac ennill y sgiliau a'r technegau i ddefnyddio taenlenni yn llwyddiannus. Dysgu rhesoli ffeiliau, gan gynnwys arbed, sicrhau a rhannu dogefnnau, fel un o'r sgiliau allweddol a drafodir yn ystod y cwrs hwn.
Mae'r cwrs 10 wythnos hwn, a gyflwynir dros dri thymor 10 wythnos, yn eich helpu i wella'ch cynhyrchiant gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd TGCh a swyddfa. Bydd yn eich helpu i ddeall manteision defnyddio prosesu geiriau, cyflwyniadau a thaenlenni, yn ogystal â darparu'r sgiliau a'r achrediadau cydnabyddedig i chi i'w defnyddio'n effeithiol.
Ymhlith y sgiliau a addysgir mae:
- Creu, golygu a fformatio dogfennau wedi'u prosesu â geiriau.
- Creu cyflwyniadau digidol.
- Cynhyrchu a defnyddio taenlenni yn effeithiol.
- Rhoeli ffeiliau.
Bydd yr unedau Agored Cymru dan sylw yn cynnwys:
- CQ11CY083 Technegau Prosesu Geiriau.
- CP11CY018 Creu Cyflwyniadau Digidol.
- CP31CY016 Technegau Taenlen.
Mae pob un o'r unedau uchod werth tri chredyd, naw i gyd, y gellir eu defnyddio i ffurfio rhan o un neu fwy o gymwysterau Agored Cymru rheoledig.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Sesiynau dosbarth, dan arweiniad tiwtor.
- Taflenni a thaflenni canllaw ar gael i lawrllwytho ac argraffu.
- Gwaith prosiect ar gyfer achredu.
Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Fformat dysgu: wyneb-i-wyneb.
Côd y cwrs: DL042498.NE