Toglo gwelededd dewislen symudol

Casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gyfer busnesau

Ni waeth faint o wastraff y mae eich busnes yn ei gynhyrchu, gallwn gynnig cynwysyddion addas i storio'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu a'i baratoi i'w gasglu.

Biniau olwynog

Rydym yn darparu biniau olwynion i storio'ch gwastraff busnes rhwng casgliadau. Mae amrywiaeth o feintiau ar gael i fodloni gofynion eich busnes.

Mae'r gwasanaeth biniau'n ddelfrydol ar gyfer y busnesau hynny sydd â lle ar eu safle i symud a storio'r mathau hyn o finiau. Bydd angen i swyddog gwblhau asesiad addasrwydd cyn y gallwn ddarparu biniau.

Bydd y tabl isod yn eich helpu i benderfynu pa fath o gynhwysydd sy'n iawn i'ch busnes. Dylech ddewis maint y cynhwysydd sydd yn addas ar gyfer swm y gwastraff mae'ch busnes yn ei gynhyrchu, nid ar sail pris.

Capasiti biniauLledDyfnderUchder* Nifer y sachau (oddeutu)
360 litr62 cm86 cm107 cm5
500 litr126cm72cm108cm6
770 litr126 cm78.5 cm137 cm9
1100 litr126.5 cm98.5 cm137 cm14

*sachau gwastraff, cynhwysedd safonol 70 litr

Mae biniau'n dod â chloeon.

Mae'n rhaid cyflwyno biniau olwynog gyda'r caeadau ar gau ac wedi'u cloi; rhaid cadw'r holl wastraff na ellir ei ailgylchu y tu mewn i'r bin. Ni fydd gwastraff na ellir ei ailgylchu wrth ymyl y biniau neu ar ben y biniau'n cael ei gasglu oni bai y cytunwyd ar hyn cyn y casgliad.

Gallwch ofyn am gasgliad sbwriel ar alw ar-lein.

Terfynau pwysau biniau

Ni all y cerbyd godi biniau sy'n pwyso dros 500kg. Mae hyn fel arfer ond yn digwydd os yw'r bin yn cynnwys gwastraff bwyd neu rwbel nad ydym yn ei dderbyn mewn biniau gwastraff na ellir ei ailgylchu. Os gwelwn fod busnes yn rhoi'r deunyddiau hyn mewn bin rydym yn cadw'r hawl i derfynu ei gontract ar unwaith.

Sachau gwyn

Os nad ydych yn cynhyrchu digon o wastraff i gael bin olwynog, yna mae gennym wasanaeth casglu sachau gwyn ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Bydd angen i chi lofnodi contract gyda'r Tîm Gwastraff Masnachol cyn i chi archebu sachau gwyn.

Gallwch archebu a thalu am sachau gwastraff masnachol gwyn ar-lein.

Close Dewis iaith