Gwybodaeth am gais Tyregen UK Ltd
Beth sy'n cael ei gynnig?
Mae Tyregen UK Ltd am agor peiriant llosgi gwastraff yn Waunarlwydd. Maent am drin teiars gwastraff. I wneud hyn, mae'n rhaid iddynt wneud cais i'r Cyngor am drwydded i weithredu'r weithfa.
Beth yw rôl y Cyngor yn hyn?
Y Cyngor yw'r gwasanaeth rheoli llygredd ar gyfer ardal Abertawe. Mae'n rhaid i'r cwmni wneud cais am drwydded ac mae'n rhaid i'r cyngor benderfynu p'un a ddylid rhoi trwydded.
Sut mae'n mynd ati i ystyried a ddylid rhoi trwydded neu beidio?
Mae'n rhaid iddo ystyried y drwydded mewn proses statudol o dan Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999.
Pa hawliau sydd gen i yn hyn?
Mae gennych yr hawl i wneud sylw ar y cais am drwydded. Gallwch naill ai , ysgrifennu neu anfon e-bost atom er mwyn i'ch sylwadau gael eu hystyried cyn i benderfyniad gael ei wneud. Gallwch chi wneud hynny yma: e-bostiwch pollution@abertawe.gov.uk neu ysgrifennwch i'r Is-adran Rheoli Llygredd, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE.
Os hoffech siarad ag unrhyw un am gael gafael ar y dogfennau, neu os oes angen unrhyw fformatau amgen, ffoniwch yr isadran Rheoli Llygredd ar 01792 635600..
Beth yw'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau?
20 niwrnod o'r dyddiad cyhoeddi - 2 Hydref 2024
Beth sy'n digwydd ar ôl y dyddiad cau?
Bydd y Cyngor yn ystyried yr holl sylwadau a gyflwynwyd cyn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi trwydded neu beidio.
Beth arall fydd yn cael ei ystyried?
Bydd y Cyngor yn ystyried y manylion a geir yn y cais am drwydded, gan gynnwys yr wybodaeth dechnegol a ddarperir gan Tyregen. Dan y broses statudol, bydd gan Tyregen y cyfle i wneud sylwadau ar y sylwadau cyhoeddus.
Ai'r cynghorwyr sy'n penderfynu?
Nage. O dan amodau'r Ddeddf Seneddol, caiff y penderfyniad ei wneud gan swyddogion drwy bwerau dirprwyedig. Gall cynghorwyr wneud sylw ar y cais am drwydded, ond nid ydynt yn gwneud y penderfyniad.
Erbyn pryd y caiff penderfyniad y Cyngor ei wneud?
Caiff penderfyniad ei wneud o fewn 3 mis i ddyddiad cau'r ymgynghoriad cyhoeddus.
Sut byddwch yn cyhoeddi'r penderfyniad ac a fydd yr holl sylwadau a wnaed gan y cyhoedd yn cael eu cynnwys yn hwnnw?
Cyhoeddir dogfen penderfyniad ar ein gwefan. Bydd hon yn egluro sut rydym wedi ystyried cais yr Ymgeisydd.
A fyddaf yn gallu gweld y broses a ddilynwyd gan y Cyngor i gyrraedd ei benderfyniad?
Byddwch. Caiff hon ei chyhoeddi fel dogfen penderfyniad.
Beth os wyf yn anghytuno â phenderfyniad y Cyngor?
Nid oes gan y cyhoedd hawl i apelio. Os yw Tyregen yn anghytuno â'r penderfyniad, gall apelio.
A oes gan Tyregen ganiatâd cynllunio i weithredu'r peiriant llosgi gwastraff? Pwy roddodd hwnnw?
Oes. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer cais blaenorol ym mis Hydref 2011, am ddatblygiad cyfreithlon ar gyfer prosesu teiars a phlastigion ar ddiwedd eu hoes i gynhyrchu tanwydd a du carbon.
Rhif y cais yw 2011/1319. Dolen yma: Cais 2011/1319
Os oes gan Tyregen ganiatâd cynllunio, pam y mae angen trwydded arno i'w gweithredu?
Mae'r drwydded yn ymwneud â deddfwriaeth wahanol. Mae cais am drwydded yn ymwneud â manylion technegol ynghylch sut mae'r cwmni'n bwriadu gweithredu'r broses llosgi gwastraff. Nid yw'r ffaith bod caniatâd cynllunio eisoes wedi'i roi yn golygu y caiff trwydded i weithredu ei rhoi yn awtomatig.
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i awdurdodau lleol reoli rhai mathau o ffatrïoedd a gweithgareddau eraill. Diben hyn yw lleihau unrhyw lygredd y gallant ei achosi ac yn anad dim, helpu i wella ansawdd aer. Mae'n rhaid i fusnesau sy'n gweithredu'r mangreoedd hyn feddu ar drwydded. Rhaid iddynt wneud cais am drwydded i'r Awdurdod Lleol, a fydd yn penderfynu p'un a ddylid rhoi trwydded. Os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt roi ar glawr sut bydd y llygredd yn cael ei atal a lle nad yw hyn yn bosib, ei leihau
Beth os yw'r Cyngor yn gwrthod cais am drwydded Tyregen?
Gall y cwmni apelio yn erbyn y penderfyniad i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.