Toglo gwelededd dewislen symudol

Theatr Awyr Agored: Peter Pan

Dydd Mercher 7 Awst

Peter Pan Oystermouth Castle

Peter Pan - Y sioe gerdd i deuluoedd y mae disgwyl mawr amdani, wedi'i chyflwyno gan Immersion.
Mae Immersion Theatre yn eich gwahodd i hedfan i Neverland wrth iddynt gyflwyno'u sioe fwyaf hudol hyd yma - Peter Pan! Paratowch i feddwl am bethau hapus a hedfan fri wrth i Peter direidus fynd ar antur fawr - bydd yn cyflwyno plant y teulu Darling i'r bechgyn coll, Tinkerbell, Smee hynod ddoniol a llu o gymeriadau cyffrous eraill cyn wynebu'r dihiryn mwyaf dychrynllyd erioed - yr anfad Captain Hook!

Mae'r sioe gerdd hynod ddoniol hon am y bachgen nad oedd erioed wedi tyfu i fyny yn cynnwys cerddoriaeth gofiadwy, digonedd o gyfleoedd i ryngweithio â'r gynulleidfa, sgript ddifyr iawn a'r cyfle i gwrdd â'r cymeriadau ar ôl y sioe, ac mae'n addo diddanu pob aelod o'r teulu... felly peidiwch â cholli allan!

Yn addas i'r rheini dros 4 oed / Genre: Sioe gerdd

Tocynnau: https://www.croesobaeabertawe.com/events/peter-pan-3/

Oedolyn - £15
Consesiwn* - £13
Plentyn - 7.50
Teulu - £42.00 (2 oedolyn a 3 blentyn)

*Dan 16 oed, dros 60 oed a myfyrwyr a chanddynt gardiau adnabod.
Bydd y rheini dan 3 oed ac yn iau

Llogi Cadair Gynfas - £2.50

Noddwr swyddogol - holidaycottages.co.uk

Close Dewis iaith