Toglo gwelededd dewislen symudol

Theatr Awyr Agored: Romeo and Juliet

Dydd Iau 8 Awst

Romeo and Juliet Oystermouth Castle

Romeo and Juliet a berfformir gan Illyria
Mae dau deulu cyfoethog, y Montagues a'r Capulets, yn rhyfela. Mae eu gelyniaeth wedi bod yn un hir a chwerw. Ond pan mae Romeo, mab y Montagues, yn mynd i barti'r Capulets heb wahoddiad ac mewn cuddwisg, mae popeth yn newid. Yn y parti mae'n cwrdd â Juliet, merch y Capulets, ac mae'r pâr yn cwympo mewn cariad gwaharddedig sy'n arwain at gyfres o ddigwyddiadau.... a diweddglo trychinebus. O gyfarfod cyfrinachol mewn gardd yng ngolau lleuad i ornest dyngedfennol dan haul chwilboeth Verona, mae Shakespeare yn archwilio pŵer parhaus cariad, dial a ffawd yn un o'i straeon fwyaf poblogaidd. Ond yr hyn sy'n wahanol am y drasiedi enwog hon yw ei bod hi'n hynod ddoniol hefyd!

Mae'r cynhyrchiad cyffrous, caboledig ac effeithiol hwn, a berfformir gan Illyria yn yr awyr agored, wedi cael ei greu gan ddefnyddio'r testun yn First Folio yn unig - yr argraffiad fwyaf awdurdodol o ddramâu Shakespeare. Perfformiodd Illyria y ddrama ardderchog hon am y tro cyntaf dros ddau ddegawd yn ôl a chawsant ganmoliaeth fawr yn fyd-eang. Yr haf hwn mae'n dychwelyd am y trydydd tro: drama angerddol, farddol a hynod gyffrous!

Hyd y perfformiad (yn fras): 140 munud (gan gynnwys egwyl 20 munud) Yn addas i bob oedran.

Tocynnau: https://www.croesobaeabertawe.com/events/romeo-and-juliet-2/

Oedolyn - £15
Consesiwn* - £13
Plentyn - 7.50
Teulu - £42.00 (2 oedolyn a 3 blentyn)

*Dan 16 oed, dros 60 oed a myfyrwyr a chanddynt gardiau adnabod.
Bydd y rheini dan 3 oed ac yn iau

Llogi Cadair Gynfas - £2.50

Noddwr swyddogol - holidaycottages.co.uk

Close Dewis iaith