Toglo gwelededd dewislen symudol

Datblygu a ganiateir

Mae'r holl ddeddfwriaeth bywyd gwyllt yn dal i fod yn berthnasol, ni waeth a oes angen caniatâd cynllunio ar ddatblygiad, cynllun neu brosiect ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfraith amgylcheddol i'w chael yn: https://cyfraith.llyw.cymru/yr-amgylchedd

 

Safleoedd a warchodir

Dywed Rheoliad 75 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, fel y'i diwygiwyd (y Rheoliadau Cynefinoedd) na fydd unrhyw ddatblygiad sy'n cael caniatâd drwy Orchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir ac sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar safle a warchodir (Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) neu Ramsar ac nid yw wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â rheoli'r safle a warchodir, yn cael dechrau nes bod y datblygwr wedi cael cymeradwyaeth ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl).

Mae datblygiadau a all effeithio ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), hyd yn oed os caiff ei ystyried yn ddatblygiad a ganiateir, yn dal i fod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Adrannau 28E a 28H Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) mewn perthynas ag ymgymryd â gweithrediadau sy'n debygol o niweidio nodweddion SoDdGA.

Rhywogaethau a warchodir

Gall tai ac adeiladau eraill gynnal clwydfannau ystlumod, nythod adar neu ddarparu lloches i rywogaethau eraill a warchodir. Os yw adeilad yn cynnwys clwydfan ystlumod ac y byddai newid arfaethedig (fel gosod to newydd neu baneli solar neu dynnu simnai), estyniad, addasu croglofft neu ehangiad yn effeithio arno, gall fod angen trwydded, hyd yn oed os yw'r gwaith wedi'i ddosbarthu fel datblygiad a ganiateir. Mae clwydfannau ystlumod wedi'u gwarchod rhag aflonyddiad, dinistriad a rhwystrad hyd yn oed pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Dylai gwaith arfaethedig gael ei gynllunio i osgoi effeithio ar glwydfannau ystlumod, ac os nad yw hyn yn bosib, yna bydd angen cael trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn osgoi trosedd. https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/species-licensing/list-of-protected-species/bat-licensing/?lang=cy

Mae rhywogaethau adar sy'n cael eu cysylltu'n aml â thai yn cynnwys y wennol ddu, gwennol y bondo, aderyn y to, gwylanod a cholomennod. Gwarchodir nythod pob aderyn gwyllt gan y gyfraith rhag cael eu dinistrio. Mae rhai rhywogaethau adar wedi'u gwarchod rhag aflonyddiad hefyd. Os yw adeilad yn cynnal nyth aderyn sy'n cael ei ddefnyddio neu ei adeiladu a byddai'r gwaith arfaethedig yn effeithio ar y safle nythu, rhaid cynllunio'r gwaith ar gyfer adeg pan na fydd y nyth yn cael ei ddefnyddio, fel arall, gall trosedd gael ei chyflawni.

Cymeradwyaeth ymlaen llaw

Ar gyfer rhai o'r hawliau datblygu a ganiateir a roddir gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, fel y'i diwygiwyd, mae proses 'cymeradwyo ymlaen llawn' yn gymwys. Rhaid i ddatblygwr wneud cais i'r awdurdod cynllunio lleol i gadarnhau a oes angen cymeradwyaeth ymlaen llawn ar gyfer rhai datblygiadau. Mae enghreifftiau'n cynnwys gweithrediadau amaethyddol, coedwigaeth, telathrebu a dymchwel. Wrth ystyried cais am gymeradwyaeth ymlaen llawn, mae'r ddyletswydd yn rheoliad 9(3) y Rheoliadau Cynefinoedd yn golygu bod yn rhaid i'r ACLl roi sylw i ofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (Cyfarwyddeb 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a fflora a ffawna gwyllt).

Close Dewis iaith