COAST - Faith in Families - Sesiynau amrywiol
I blant hyd at 13 oed a'u teuluoedd.
Byddwn yn cynnal sesiynau am ddim a ariennir gan COAST yng nghymunedau'r Clâs, Portmead a Bôn-y-maen i blant hyd at 13 oed a'u teuluoedd.
Er bod croeso i bobl o'r tu allan i'n cymunedau gymryd rhan, bydd preswylwyr lleol yn cael blaenoriaeth os bydd y sesiynau'n orlawn.
Byddwn yn darparu cymysgedd o gyfleoedd at ddant pawb a fydd yn amrywio o deithiau i deuluoedd, teithiau i bobl ifanc a phlant, cynlluniau chwarae, sioeau pyped, diwrnodau castell neidio, sesiynau hwyl, picnics a mwy.
Byddwn yn cyflwyno sesiynau amrywiol dros gyfnod o bum wythnos yn ein canolfannau cwtsh a chanolfannau cymunedol, ynghyd â pharciau a lleoliadau lleol.
Manylion cyswllt:
Rhif ffôn: 07826 929289