Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Garage Band i Ddechreuwyr - ar gyfer iOS (fersiwn iPad yn unig) (fideos ar-lein a thiwtorial byr) [Dydd Llun 10.00am-12.00pm] DL042531KM

Dydd Llun 28 Ebrill 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 50
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 10:00
12:00
Pris Am ddim
Online / blended - Google Classroom

Hyd - 10 wythnos

Fideos wedi'u recordio ymlaen llaw a thiwtorial 30 munud wythnosol.

Rhyddhawyd GarageBand yn wreiddiol ar gyfer macOS yn 2004 a daethpwyd â hi i IOS yn 2011. Mae system creu podlediadau'r ap yn galluogi defnyddwyr i greu amryfal draciau gydag allweddellau MIDI a wnaed o flaen llaw, dolenni a wnaed o flaen llaw, amrywiaeth o effeithiau offerynnol amrywiol a recordiadau llais.

Roedd hyn i gyd wedi chwyldroi'r stiwdio recordio gartref gan ddod â chreu cerddoriaeth i flaenau bysedd pobl nad oeddent yn gerddorion, neu gerddorion yr oedd eu gwybodaeth neu alluoedd cerddorol yn gyfyngedig.

Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu hanfodion GarageBand ar gyfer iOS fel:

  • Sut i greu cân newydd
  • Sut i ychwanegu trac a dewis offeryn
  • Archwilio'r dolenni a wnaed o flaen llaw
  • Chwarae'r offerynnau ar y sgrin â llaw
  • Sut i olygu trac
  • Sut i ychwanegu effeithiau
  • Sut i greu adran newydd
  • Sut i drefnu'r adrannau i greu cân gyflawn
  • Sut i recordio lleisiau ac offerynnau go iawn
  • A llawer, llawer mwy

Bydd angen iPad arnoch gyda GarageBand wedi'i gosod arno a phâr o glustffonau. Daw GarageBand am ddim gyda phob iPad (ond dylech fod yn ymwybodol na fydd iPads hŷn yn gallu rhedeg y diweddariadau diweddaraf weithiau).

Byddwn yn gweithio o gwmpas unrhyw broblemau orau y gallwn i weddu i'ch iPad chi.

Fformat dysgu: Ar-lein.

Côd y cwrs: DL042531KM

Amserau eraill ar Dydd Llun 28 Ebrill

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu