Toglo gwelededd dewislen symudol

Lefel 1 - Sgiliau TG ar gyfer Gwaith a Bywyd [Dydd Mercher 9.30am-11.30am] DL012594.NE

Dydd Mercher 22 Ionawr 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 0
Dim rhagor ar gael
Amser dechrau 09:30
11:30
Pris Free
Yr ARC Cymunedau am Waith

Dyddiadau'r tymor: yr wythnos sy'n dechrau 20 Ionawr 2025 - yr wythnos sy'n dod i ben ar 4 Ebrill 2025.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys tri thymor dysgu, gyda'r nôd o ddarparu sgiliau ac unedau achrededig i chi ar Lefel 1 Agored Cymru.

Enillwch y sgiliau TGCh i weithredu a symud ymlaen mewn gwaith, addysg a bywyd bob dydd, gan ddefnyddio Technoleg Ddigidol er eich budd chi. Defnyddiwch gymwysiadau meddalwedd prosesu geiriau ac archwiliwch yr offer i olygu a fformatio dogfennau. Dylunio, paratoi a darparu cyflwyniadau digidol ac ennill y sgiliau a'r technegau i ddefnyddio taenlenni yn llwyddiannus. Dysgu rheoli ffeiliau, gan gynnwys arbed, sicrhau a rhannu dogfennau, fel un o'r sgiliau allweddol a drafodir yn ystod y cwrs hwn.

Bydd y cwrs, a gyflwynir dros dri thymor 10 wythnos, yn eich helpu i wella'ch cynhyrchiant gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd TGCh a swyddfa. Bydd yn eich helpu i ddeall manteision defnyddio prosesu geiriau, cyflwyniadau a thaenlenni, yn ogystal â darparu'r sgiliau a'r achrediadau cydnabyddedig i chi i'w defnyddio'n effeithiol.

Ymhlith y sgiliau a addysgir mae:

  • Creu, golygu a fformatio dogfennau wedi'u prosesu â geiriau.
  • Creu cyflwyniadau digidol.
  • Cynhyrchu a defnyddio taenlenni yn effeithiol.
  • Rhoeli ffeiliau

Bydd yr unedau Agored Cymru dan sylw yn cynnwys:

  • Technegau Prosesu Geiriau, creu Cyflwyniadau Digidol, Technegau Taenlen.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Sesiynau dosbarth, dan arweiniad tiwtor.
  • Taflenni a thaflenni canllaw ar gael i lawrllwytho ac argraffu.
  • Gwaith prosiect ar gyfer achredu

Fformat dysgu: Wyneb-i-wyneb

Côd cwrs: DL012594.NE

Yr ARC Cymunedau am Waith

45 Broughton Avenue

Portmead

Abertawe

SA5 5JS

United Kingdom

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Amserau eraill ar Dydd Mercher 22 Ionawr 2025

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu