Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgrifennu Creadigol [Dydd Gwener 10.30am-12.00pm] ES042569CJ

Dydd Gwener 2 Mai 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 0
Dim rhagor ar gael
Amser dechrau 10:30
12:00
Pris Am ddim

Gyda Carolyn Jones - Archwilio'ch Llais Unigryw! Dewch i fwynhau ysgrifennu a rhannu'ch ysgrifennu o fewn amgylchedd grŵp cadarnhaol a chefnogol.

Mae'r dosbarthiadau hyn wedi'u dylunio i'ch cefnogi a'ch annog i ymarfer ysgrifennu mewn sawl genre, gan gynnwys straeon, barddoniaeth, atgofion, straeon teuluol, ffuglen - chi sy'n penderfynu sut i ddefnyddio pob pwnc neu ddull ysgrifennu er mwyn creu darn o ysgrifennu sy'n arwyddocaol i chi.

Hyd - 10 wythnos

Bydd elfennau'r gweithdy hwn yn cynnwys:

  • Ysgrifennu ym mhob dosbarth.
  • Darllen enghreifftiau o amrywiaeth o fathau o ysgrifennu.
  • Trafod a rhannu syniadau am ysgrifennu.
  • Mwynhau'r cyfle hwn i archwilio darllen ac ysgrifennu am bynciau gwahanol.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Dysgu wyneb yn wyneb
  • Taflenni sy'n cynnwys gwaith ysgrifennu gan ffynonellau cyhoeddedig fel enghreifftiau o genres, arddulliau a phynciau penodol.

Yr hyn fydd ei angen arnoch chi:

Rhywbeth i ysgrifennu arno, rhywbeth i ysgrifennu ag ef, a mwg ar gyfer ein egwyl de. Darparir te a choffi gan Dysgu Gydol Oes.

Fformat dysgu: wyneb-yn-wyneb

Côd y cwrs: ES042569CJ

Amserau eraill ar Dydd Gwener 2 Mai

Dim enghreifftiau o hyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu