Toglo gwelededd dewislen symudol

Chwarae Gitâr ar gyfer Ddechreuwyr Llwyr (ar-lein) [Dydd Mawrth 5.30pm-7.00pm] EN012533.KM

Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 11
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 17:30
19:00
Pris Free
Ar-lein - 'Google Classroom'

Dyddiadau'r tymor: yr wythnos sy'n dechrau 20 Ionawr 2025 - yr wythnos sy'n dod i ben ar 4 Ebrill 2025.

Hyd - 10 wythnos.

Sylwch mae'r cwrs hwn yn rhedeg 10 wythnos o'r dyddiau dechrau. Byddwch yn ymuno â'r cwrs yn hwyr os wnewch chi gofrestru arôl y dyddiad hon. Croeso i ddysgwyr newydd os mae lefydd dal ar gael i fwcio arnynt.

Mae'r cwrs dysgu ar-lein hwn yn addas ar gyfer y dechreuwr cyflawn heb unrhyw wybodaeth flaenorol o gerddoriaeth na gitâr. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i diwnio gitâr a dilyn taflenni caneuon syml gan ddefnyddio blychau cord gitâr. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu patrymau strymio syml a sut i ddilyn curiad. Cyflwynir gwersi trwy gyfuniad o fideos wedi'u recordio ymlaen llaw a sesiynau byw yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd myfyrwyr yn derbyn gwersi ar-lein wedi'u recordio ymlaen llaw, wedi'u creu gan ein hathro profiadol ac wedi'u cynllunio ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno ennill rhai sgiliau chwarae gitâr sylfaenol. Bydd sesiynau adborth ac ymarfer byw yn cael eu cynnal yn y dosbarth.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Fideos wedi'u recordio ymlaen llaw.
  • Darperir taflenni caneuon i chwarae ynghyd â nhw.
  • Taflenni gwaith a thaflenni ychwanegol.
  • Cyfleoedd i chwarae'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu, yn yystod pob sesiwn i gael adborth ac arweiniad gan eich tiwtor.

Fformat dysgu: Ar-lein 5.30pm - 6.30pm. Cyfarfod fyw 6.30pm - 7.00pm.

Côd y cwrs: EN012533.KM

Amserau eraill ar Dydd Mawrth 21 Ionawr 2025

Dim enghreifftiau o hyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu