Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Chwarae Gitâr a'r gyfer Rhai sy'n Gwella i Lefel Uwch (fideos ar-lein a thiwtorial byr) [Dydd Llun 5.30pm-7.00pm] EN042535KM

Dydd Llun 28 Ebrill 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 10
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 17:30
19:00
Pris Am ddim
Online / blended - Google Classroom

Gyda Keith Morgan

Sylwch mae'r cwrs hwn yn rhedeg 10 wythnos o'r dyddiau dechrau. Byddwch yn ymuno â'r cwrs yn hwyr os wnewch chi gofrestru arôl y dyddiad hon. Croeso i ddysgwyr newydd os mae lefydd dal ar gael i fwcio arnynt.

Hyd - 10 wythnos

Fideos wedi'u recordio ymlaen llaw a thiwtorial 30 munud wythnosol.

Mae'r cwrs dysgu ar-lein hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth resymol o gerddoriaeth neu gitâr. Fel rheol, bydd myfyrwyr wedi mynychu'r dosbarth canolradd cyn mynychu'r cwrs hwn.

Disgwylir i chi wybod ystod o gordiau syml gan gynnwys cordiau bar. Bydd sesiynau'n archwilio ysbeidiau a sut mae cordiau'n cael eu ffurfio, e.e. E, Em, E7, EMaj7, Em7, E6, Esus4, E9, E11, E13. Bydd eich tiwtor yn eich arwain trwy daflenni caneuon syml i gymhleth gan ddefnyddio blychau cord gitâr ac weithiau Tab. Bydd dysgwyr yn archwilio rhai llinellau alaw syml ac yn dysgu sut i wella patrymau a rhythmau strymio.

Bydd myfyrwyr yn derbyn gwersi ar-lein wedi'u recordio ymlaen llaw, wedi'u creu gan ein hathro profiadol ac wedi'u cynllunio ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno ennill rhai sgiliau chwarae gitâr sylfaenol. Bydd sesiynau adborth ac ymarfer byw yn cael eu cynnal yn y sesiynau ar-lein.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Fideos wedi'u recordio ymlaen llaw.
  • Darperir taflenni caneuon i chwarae ynghyd â nhw.
  • Taflenni gwaith a thaflenni ychwanegol.
  • Cyfleoedd i chwarae'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu, yn y dosbarth i gael adborth ac arweiniad gan eich tiwtor.


Fformat dysgu: Ar-lein 5.30pm - 6.30pm. Cyfarfod fyw ar-lein 6.30pm - 7.00pm.

Côd y cwrs: EN042535KM

Amserau eraill ar Dydd Llun 28 Ebrill

Dim enghreifftiau o hyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu