Chwarae Iwcalili ar gyfer Rhai sy'n Gwella (ar-lein) [Dydd Llun 5.00pm-6.30pm] EN012536.KM
Dyddiadau'r tymor: yr wythnos sy'n dechrau 20 Ionawr 2025 - yr wythnos sy'n dod i ben ar 4 Ebrill 2025.
Hyd - 10 wythnos
Sylwch mae'r cwrs hwn yn rhedeg 10 wythnos o'r dyddiau dechrau. Byddwch yn ymuno â'r cwrs yn hwyr os wnewch chi gofrestru arôl y dyddiad hon. Croeso i ddysgwyr newydd os mae lefydd dal ar gael i fwcio arnynt.
Mae'r cwrs dysgu ar-lein hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd â gwybodaeth flaenorol am gerddoriaeth neu iwcalili, ond sy'n dymuno gwella eu sgiliau. Disgwylir i fyfyrwyr wybod ystod o gordiau syml, C, D, G, E, F, A, Am, Em, Dm, i gallu cymryd rhan yn llwyddiannus yn y cwrs hwn. Bydd dysgwyr yn symud ymlaen i ddeall beth yw cordiau 7fed a byddant yn dilyn taflenni caneuon syml gan ddefnyddio blychau cord iwcalili. Bydd y dosbarth yn gwella ar batrymau strymio syml ac yn dilyn curiad.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Fideos wedi'u recordio ymlaen llaw.
- Darperir taflenni caneuon i chwarae ynghyd â nhw.
- Taflenni gwaith a thaflenni ychwanegol.
- Cyfleoedd i chwarae'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu, yn y dosbarth i gael adborth ac arweiniad gan eich tiwtor.
Fformat dysgu: Ar-lein 5.00pm - 6.00pm. Cyfarfod fyw ar-lein 6.00pm - 6.30pm.
Côd y cwrs: EN012536.KM