Dewch i ni goginio ar gyllideb (ar-lein) [Dydd Mawrth 10.00am-12.00pm] ES012577.AJP
Dyddiadau'r tymor: yr wythnos sy'n dechrau 20 Ionawr 2025 - yr wythnos sy'n dod i ben ar 4 Ebrill 2025.
Hyd - 10 wythnos
Mae'r cwrs ar-lein hwn yn cynnwys amrywiaeth o seigiau blasus. Archwiliwch seigiau newydd sy'n defnyddio cynnyrch ffres a chynhwysion o'ch cwpwrdd. Crëwch seigiau clasurol a chyfoes, gan gynnwys prif gyrsiau, prydau ysgafn, nwyddau pob a phwdinau.
Dysgwch sut i gael y gorau o gynhwysion tymhorol wrth wella'ch sgiliau a'ch technegau. Nod y dosbarthiadau yw gwella hyder ac ehangu gwybodaeth mewn awyrgylch difyr a hamddenol.
Bydd ryseitiau'n cynnwys:
- Prif gyrsiau.
- Prydau ysgafn.
- Nwyddau wedi'u pobi.
- Pwdinau
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Addysgir ryseitiau gan ddefnyddio dogfennau ac adnoddau ar-lein/y gellir eu hargraffu.
- Drwy gyfleuster ffrydio Google Classroom, bydd myfyrwyr yn gallu rhannu a thrafod eu cynnydd eu hunain yn eu coginio.
- Gellir cael adborth penodol gan diwtor drwy Google Classroom.
Mae'r cwrs 10 wythnos hwn yn addas i ddechreuwyr yn ogystal â'r rheini â phrofiad blaenorol. Mae'r cwrs yma yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y iaith Saesneg.
Côd y cwrs: ES012577.AJP