Dyluniadau Gwallt Creadigol i Ddechreuwyr - ar gyfer y nos / cyngherddau promenâd / priodasau [Dydd Iau 5.30pm - 7.30pm] EM092489.AF
Dewch i ddysgu amrywiaeth o dechnegau ar y cwrs dylunio gwallt creadigol achrededig newydd hwn a fydd yn caniatáu i chi greu gwahanol arddulliau o roi'r gwallt i fyny.
Bydd y rhaglen achrededig 10 wythnos hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu amrywiaeth o dechnegau a fydd yn eich galluogi i greu ystod o sgiliau trin gwallt. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio'r offer a'r cyfarpar i greu'r teiliau gwallt hyn. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ennill sgil newydd a fyd, yn ei dro, yn magu eu hyder i ddatblygu eu technegau steilio gwallt.
Bydd elfennau'r cwrs hwn yn cynnwys:
- Eich galluogi i greu a deall hanfodion steilio gwallt ar gyfer arddulliau priodasol / prom / gyda'r hwyr.
- Sylfaen ar gyfer dysgu pellach.
- Ymgynghoriadau â chleientiaid.
- Defnyddio ategolion gwallt.
- Datblygu sgiliau steilio gwallt hir a byr.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Dysgu yn y dosbarth.
- Pwnc a addysgir gan ddefnyddio dogfennau ac adnoddau wedi'u hargraffu ac ar-lein.
- Bydd y tasgau'n cael eu gosod gan eich twitor.
- Adborth gan y tiwtor a thrafodaethau yn y dosbarth.
Sylwer: Gan y bydd dysgwyr yn gweithio mewn parau, sicrhewch fod eich gwallt yn lân pan fyddwch yn dod i'r dosbarth hwn.
Fformat dysgu: Wyneb-yn-wyneb.
Côd y cwrs: EM092489.AF