Toglo gwelededd dewislen symudol

Penwythnos Celfyddydau Abertawe

O 4 i 6 Hydref, bydd Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n arddangos y celfyddydau creadigol ac yn dathlu artistiaid, perfformwyr a phobl greadigol leol a rhyngwladol yn ne Cymru.

Swansea Arts Weekend

Swansea Arts Weekend

Gyda digonedd o bethau i'w gwneud ar gyfer unigolion a theuluoedd fel ei gilydd, bydd yr ŵyl gelfyddydau'n cynnig amrywiaeth eang o sioeau, profiadau rhyngweithiol a gweithgareddau difyr ar draws nifer o atyniadau, orielau celf, mannau digwyddiadau a lleoliadau adloniant Abertawe.

Gan ddod ag artistiaid, cerddorion, cantorion, digrifwyr, beirdd, dawnswyr a ffotograffwyr at ei gilydd, bydd y gymuned yn cael cyfle i ymgolli mewn diwydiant, celfyddydau a chreadigrwydd yng nghanol y ddinas.

Gyda thri phrif ddigwyddiad - y mae pob un yn cynnwys gweithdai, perfformiadau, arddangosfeydd, gweithgareddau am ddim a mwy - bydd Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n diddanu, yn ysbrydoli ac yn cysylltu ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.

P'un a ydych yn dwlu ar gymryd rhan mewn gweithdy creadigol, profi perfformiad dawns, mwynhau arddangosfa gelf ryngweithiol, mynd am dro drwy eich hoff oriel gelf neu ddarganfod digrifwr neu fand byw newydd, bydd y Penwythnos Celfyddydau'n cynnwys gweithgareddau, arddangosfeydd a pherfformiadau i chi eu mwynhau.

Bydd y Penwythnos Celfyddydau'n cynnwys tri phrif ffrwd ac yn rhoi sylw i'r rôl hanfodol y mae'r celfyddydau yn ei chwarae wrth gyfoethogi ein cymunedau a meithrin creadigrwydd. Ynghyd â Gŵyl Ymylol Abertawe, sy'n hynod boblogaidd, caiff dau ddigwyddiad newydd eu cyflwyno gan gynnig cyfleoedd newydd i ymwelwyr ymgysylltu â'r celfyddydau mewn ffyrdd ystyrlon a chyffrous. O weithdai i berfformiadau, arddangosfeydd a mwy, bydd y penwythnos yn cynnig pethau creadigol i'w gwneud yn Abertawe i oedolion, teuluoedd a chymunedau o bob oedran.

Digwyddiadau Penwythnos Celfyddydau Abertawe:

Artistiaid Ydym Oll - mae Artistiaid Ydym Oll, sef digwyddiad newydd ar gyfer 2024, yn cynnwys arddangosfeydd celf, gweithdai a gweithgareddau creadigol a gynhelir mewn pum oriel a lleoliad perfformio yn Abertawe: Oriel Mission, Theatr Volcano, Oriel Elysium, Oriel Gelf Glynn Vivian a Galerie Simpson. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth

Olympic Fusion - mae Olympic Fusion, sef yr ail ddigwyddiad newydd ar gyfer eleni, yn brofiad y gellir ymgolli ynddo sy'n gyfuniad o breg-ddawnsio, sglefrfyrddio, syrffio a dringo. Rhagor o wybodaeth

Gŵyl Ymylol Abertawe - mae'r Ŵyl Ymylol, sy'n boblogaidd iawn ymhlith bobl leol ac ymwelwyr ag Abertawe, yn dychwelyd yn 2024. Gallwch gael y newyddion diweddaraf am berfformiadau a digwyddiadau

Mwy o wybodaeth

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Medi 2024