Coginio ar gyfer y Nadolig (ar-lein) [dydd Mawrth 1.00pm - 3.00pm] ES092578AJP
Hyd - 5 wythnos
Mae'r cwrs ar-lein hwn yn cynnwys amrywiaeth o seigiau blasus. Archwiliwch seigiau newydd sy'n defnyddio cynnyrch ffres a chynhwysion o'ch cwpwrdd. Crëwch seigiau clasurol a chyfoes, gan gynnwys prif gyrsiau, prydau ysgafn, nwyddau pob a phwdinau.
Dysgwch sut i gael y gorau o gynhwysion tymhorol wrth wella'ch sgiliau a'ch technegau. Nod y dosbarthiadau yw gwella hyder ac ehangu gwybodaeth mewn awyrgylch difyr a hamddenol.
Bydd ryseitiau'n cynnwys:
Wythnos 1: Bouillabaisse hadog mwg, eog mwg a chrempogau burum hawdd, myffins afal â sbeis.
Wythnos 2: Creision parmesan, siytni afal a llugaeron, mins peis, tesien gaws Baileys.
Wythnos 3: Stwffin bricyll a chnau castan, saws bara, tatws parisienne, rhôl meringue mefus, torth briwgig.
Wythnos 4: Terrine cyw iâr a phorc, colslo Nadoligaidd, pwdin Nadolig, boncyff siocled.
Wythnos 5: Pastai twrci, cennin a bacwn mwg, bresychen safwy, sbigoglys a chennin wedi'u tro-ffrio gydag ychydig o oren, teisen Nadolig Americanaidd ysgafn, treiffle Seisnig traddodiadol.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Addysgir ryseitiau gan ddefnyddio dogfennau ac adnoddau ar-lein / y gellir eu hargraffu.
- Drwy gyfleuster ffrydio Google Classroom, bydd myfyrwyr yn gallu rhannu a thrafod eu cynnydd eu hunain yn eu coginio.
- Gellir cael adborth penodol gan diwtor drwy Google Classroom.
Mae'r cwrs 5 wythnos hwn yn addas i ddechreuwyr yn ogystal â'r rheini â phrofiad blaenorol. Mae'r cwrs yma yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y iaith Saesneg.
Fformat dysgu: ar-lein
Côd y cwrs: ES092578AJP
