Toglo gwelededd dewislen symudol

Paentio dyfrlliw i ddysgwyr canolradd ac uwch [Dydd Gwener 11.30am - 1.30pm] EN012561.AM

Dydd Gwener 24 Ionawr 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 4
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 11:30
13:30
Pris £30.00
Pafiliwn Ciosg, Parc Victoria

Dyddiadau'r tymor: yr wythnos sy'n dechrau 20 Ionawr 2025 - yr wythnos sy'n dod i ben ar 4 Ebrill 2025.

Hyd: 10 wythnos.

Ehangwch eich sgiliau paentio dyfrlliw. Crëwch gelfweithiau mwy trawiadol fyth gan ddefnyddio sgiliau trawsnewidiol ychwanegol trwy gyfrwng cymysg. Paentiwch dirweddau, morluniau, adlewyrchiadau a chysgodion trwy gyfrwng gwych dyfrlliwiau. Ehangwch y sgiliau sydd gennych eisoes.

Dysgwch sut i ddefnyddio technegau mwy cymhleth, gan gynnwys paentio paent gwlyb ar baent gwlyb, cymysgu lliwiau, gwerth tonyddol a chyfansoddiad. Trawsnewidiwch ymddangosiad eich paentiad dyfrlliw gan ddefnyddio acrylig cyfrwng cymysg, inc, pastel a gouache.
 
Drwy sesiynau mewn ystafell ddosbarth, byddwch yn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i greu celfweithiau mwy cymhleth a hardd. Byddwch yn gweld enghreifftiau o'r dulliau a'r technegau y byddwch yn eu defnyddio i'ch helpu i greu eich celfyddyd dyfrlliw gorau hyd yn hyn.
 

Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:

  • Hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth.
  • Enghreifftiau ac anoddau wedi'u printio.
  • Aseiniadau dosbarth.
  • Adborth a chefnogaeth benodol gan diwtor.


Fformat dysgu: Wyneb i wyneb.

Côd y cwrs: EN012561.AM

Pafiliwn Ciosg, Parc Victoria

Parc Victoria

Abertawe

SA1 4NN

United Kingdom

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu