Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Tymor 3 - Arlunio Canolradd [Dydd Iau 7.00pm - 8.00pm] EN042546JPA

Dydd Iau 1 Mai 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 11
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 19:00
20:00
Pris £30.00
Online / blended - Google Classroom

Hyd: 10 wythnos.

Dysgu a datblygu sgiliau lluniadu gan ddefnyddio llinell, tôn, gwead a lliw i gwblhau ymarferion a gweithiau celf gorffenedig. Defnyddiwch amrywiaeth o gyfryngau, fel pensiliau, siarcol a beiros i ddatblygu sgiliau a thechnegau.

Yn y dosbarth canolradd hwn byddwn yn edrych ar waith artistiaid eraill i ysgogi syniadau a datblygu ein gwerthfawrogiad a'n harfer celf ein hunain. Dosbarth sylfaen fydd hwn i gyflwyno hanfodion lluniadu gyda chyfryngau sych a bydd yn fan cychwyn cadarn ar gyfer datblygiad unigol.

Sylwer, fodd bynnag, fod y cwrs yn rhedeg dros dri thymor, gyda datblygiad sgiliau drwyddo. Gall ymuno yn nhymor tri olygu y bydd rhai o'r pethau sylfaenol wedi'u cwmpasu'n flaenorol.

Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:

  • Gweithgareddau arlunio penodol i gyflwyno'r pethau sylfaenol.
  • Cyflwyniad i waith artistiaid eraill hanesyddol a chyfoes.
  • Canllawiau sesiynau strwythuredig.
  • Amrywiaeth o gyfryngau a ddefnyddir.

Bydd sesiynau'n cynnwys: 

  • Pwnc a addysgir gan ddefnyddio dogfennau ac adnoddau ar-lein.
  • Dilynir pob pwnc gan aseiniad dosbarth.
  • Bob wythnos bydd trafodaeth ac adborth dosbarth byw yn cael ei gynnal i drafod pynciau ac aseiniadau, gyda chyfle i ofyn cwestiynau ac atebion. Bydd hyn yn digwydd trwy gyflewuster Google Classrom Stream.
  • Darperir adborth penodol gan diwtoriaid ar aseiniadau dysgwyr unigol trwy Google Classroom.


Gellir astudio'r cwrs 10 wythnos hwn ar ei ben ei hun ond mae hefyd yn rhan o raglen ddysgu barhaus tri thymor.

Darperir rhestr deunyddiau yn ystod y sesiwn cyntaf. Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Fformat dysgu: Ar-lein

Côd y cwrs: EN042546JPA

Amserau eraill ar Dydd Iau 1 Mai

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu