Caligraffeg Ar-lein - Gallu Cymysg [Dydd Mercher 7.00pm - 9.00pm] EN092555JPO
Caligraffeg yw crefft ysgrifennu hardd. Yn y dosbarth hwn, byddwch yn dysgu'r holl egwyddorion sylfaenol ar gyfer creu llythrennau hardd a sut i'w cymhwyso'n gyson.
Mae caligraffeg yn bwnc diddorol gyda sawl cymhwysiad. Bydd eich tiwtor yn esbonio cam wrth gam sut i feistroli'r pwnc cyffrous hwn fel y gallwch ddatblygu'ch sgiliau.
Byddwch yn dysgu:
- Sut i ysgrifennu mewn llawysgrifen gain.
- Sut i ddefnyddio lliw a chynnwys gwaith celf â llythrennau.
- Sut i ddylunio cerdyn difyr.
- Pa offer sydd orau ar gyfer caligraffeg.
- Pa bapur i'w ddefnyddio ar gyfer y canlyniadau gorau.
- Pam mae'r llythyren 'o' yn effeithio ar bob llythyren arall.
- Sut i greu llythrennau cyson.
- Sut i roi bylchau cywir rhwng llythrennau a geiriau.
- Sut i weithio allan taldra eich llythrennau.
- Sut i osod eich geiriau ar y dudalen heb redeg allan o le.
- Cywiro camgymeriadau.
Yr hyn y byddwch yn ei greu:
Bag cynfas wedi'i bersonoli
Dyluniad stensil â llythrennau i'w ddefnyddio ar ddillad, ateolion neu flychau.
Dyluniad â llythrennu mewn troell gyda'r opsiwn o gynnwys celfwaith a lliwiau cefndir.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Arddangosiadau gan diwtor.
- Cwestiwn ac ateb.
- Gwaith grŵp.
- Gwaith ymarferol.
- Gwaith prosiect.
Cost y deunyddiau yw oddeutu £30 a bydd rhai ohonynt ar gael oddir wrth y tiwtor.
Bydd y rhestr lawn ar gael yn y wers gyntaf.
Fformat dysgu: Ar-lein yn wythnosol Bob dydd Mercher.
Côd y cwrs: EN092555JPO