Toglo gwelededd dewislen symudol

Caligraffeg - Gallu Cymysg bob pythefnos [Dydd Llun 9.30am - 1.30pm] EN012554.JPO

Dydd Llun 20 Ionawr 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 5
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 09:30
13:30
Pris £30.00
Yr ARC Cymunedau am Waith

Caligraffeg yw crefft ysgrifennu hardd. Yn y dosbarth hwn, byddwch yn dysgu'r holl egwyddorion sylfaenol ar gyfer creu llythrennau hardd a sut i'w cymhwyso'n gyson.

Mae caligraffeg yn bwnc diddorol gyda sawl cymhwysiad. Bydd eich tiwtor yn esbonio cam wrth gam sut i feistroli'r pwnc cyffrous hwn fel y gallwch ddatblygu'ch sgiliau.

Byddwch yn dysgu:

  • Pa offer sydd orau ar gyfer caligraffeg.
  • Pa bapur i'w ddefnyddio ar gyfer y canlyniadau gorau.
  • Pam mae'r llythyren 'o' yn effeithio ar bob llythyren arall.
  • Sut i greu llythrennau cyson.
  • Sut i roi bylchau cywir rhwng llythrennau a geiriau.
  • Sut i weithio allan taldra eich llythrennau.
  • Sut i osod eich geiriau ar y dudalen heb redeg allan o le.
  • Sut i ddarlunio troell.
  • Sut i gynllunio troell ac ysgrifennu arni.
  • Dyluniadau ar gyfer eich troell.
  • Datblygu eich llythrennu.


Yr hyn y byddwch yn ei greu:

Wyddor sy'n gweithio'n dda fel grŵp.

Dyluniad sy'n ailadrodd ar gyfer papur lapio'r Nadolig neu dagiau.

Dyluniad â llythrennu mewn troell gyda'r opsiwn o gynnwys celfwaith a lliwiau cefndir.


Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Arddangosiadau gan diwtor.
  • Cwestiwn ac ateb.
  • Gwaith grŵp.
  • Gwaith ymarferol.
  • Gwaith prosiect.


Cost y deunyddiau yw oddeutu £30 a bydd rhai ohonynt ar gael oddi wrth y tiwtor.

Bydd y rhestr lawn ar gael yn y wers gyntaf.

Dyddiadau:

Gwellhawyr:

20 Ionawr 2025
3 Chwefror 2025
17 Chwefror 2025
10 Mawrth 2025
24 Mawrth 2025

Dechreuwyr:

27 Ionawr 2025
10 Chwefror 2025
3 Mawrth 2025
17 Mawrth 2025
31 Mawrth 2025 

Fformat dysgu: Wyneb i wyneb.

Côd y cwrs: EN012554.JPO

Yr ARC Cymunedau am Waith

45 Broughton Avenue

Portmead

Abertawe

SA5 5JS

United Kingdom

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Amserau eraill ar Dydd Llun 20 Ionawr 2025

Dim enghreifftiau o hyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu