Celf ddigidol i ddechreuwyr [Dydd Mercher 12.00pm - 2.00pm] DL092456.JPO
Hyd: 10 wythnos.
Roedd bod yn gallu arlunio gynt yn faes i artistiaid yn unig. Fodd bynnag, ers datblygiad rhaglenni celf ac apiau fel 'Procreate', mae'r cyfle ar gael yn awr i bawb allu creu celf yn rhwydd. Does dim angen i chi fod yn gallu arlunio i ymuno â'r dosbarth.
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn dysgu hanfodion Procreate fel:
- Sut i ddethol neu newid maint y cynfas.
- Offer brwsh.
- Mewnforio lluniau.
- Defnyddio haenau.
- Ychwanegu testun.
- Trin delweddau.
- Cadw'ch gwaith.
- Animeiddio yn nhymor y gwanwyn.
- A llawer mwy.
Bydd iPad ar gael yn ystod yr amser yn y dosbarth gyda Procreate i'r rheini nad oes ganddynt un eu hunain. Bydd y sgiliau a ddysgir yn drosglwyddadwy i raglenni a dyfeisiau eraill.
Fformat dysgu: Wyneb i wyneb.
Côd y cwrs: DL092456.JPO