Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefnu blodau ar gyfer ddechreuwyr [Dydd Mawrth 3.00pm - 5.00pm] EN092471.LG

Ni restrir enghreifftiau ar gyfer y digwyddiad hwn ar hyn o bryd

Hyd - 10 wythnos.

Mae trefnu blodau a deunyddiau planhigion yn weithgaredd hwyl, creadigol a therapiwtig sy'n gallu rhoi llawer o foddhad ac mae'n gallu gwella ein lles.

Drwy gydol y flwyddyn mae natur yn darparu deunyddiau planhigion hyfryd ar gyfer trefnu blodau sydd ar gael yn rhwydd mewn gerddi a gwrychoedd. Bydd dysgwyr yn dysgu sut i ddefnyddio deunyddiau planhigion tymhorol i greu dyluniadau blodau ar gyfer y cartref ac ar gyfer digwyddiadau ac achlysuron arbennig.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau a'r technegau sylfaenol i chi greu dyluniadau cyfoes a thraddodiadol. Gan symud tuag at leihau'r ddibyniaeth ar sbwng blodau, caiff technegau traddodiadol a blaengar eu defnyddio i greu rhai trefniadau heb ddefnyddio sbwng blodau.

Mae gweithio gyda phobl eraill mewn lleoliad ystafell ddosbarth yn darparu cyfle i gwrdd â phobl newydd o'r un meddylfryd o gefndiroedd amrywiol y gallwch rannu syniadau a thrafod atebion ar gyfer dyluniadau a chanlyniadau â nhw.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Gwybodaeth am ddeunyddiau planhigion.
  • Sgiliau ymdrin â deunyddiau planhigion a gofalu amdanynt.
  • Arddulliau a thechnegau dylunio.
  • Cyfleoedd i fod yn greadigol.
  • Gweithgareddau ymarferol.

Bydd dysgwyr yn derbyn y canlynol:

  • Dysgu wyneb yn wyneb.
  • Arddangosiadau sgiliau dylunio.
  • Arweiniad ac adborth gan diwtoriaid.
  • Taflenni arweiniad ar-lein (Goole Classroom).


Fformat dysgu: Wyneb i wyneb.

Côd y cwrs: EN092471.LG 

Amserau eraill

Dim enghreifftiau o hyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu