Blodeuwriaeth ar gyfer Waith [Dydd Mawrth 1.00pm - 3.00pm] EM092472.LG
Hyd - 10 wythnos.
Mae trefnu blodau a deunyddiau planhigion yn weithgaredd hwyl, creadigol a therapiwtig sy'n gallu rhoi llawer o foddhad i'r gwerthwr blodau a'r cwsmer. Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu'r sgiliau sylfaenol y mae eu hangen arnoch i weithio mewn amgylchedd siop flodeuwriaeth.
Y nod a'r pwrpas bydd adnabod y deunyddiau a'r cyfarpar a dysgu am arddulliau a thechnegau dylunio a ddefnyddiwyd ym maes blodeuwriaeth. Mae gweithio gyda phobl eraill mewn lleoliad ystafell ddosbarth yn darparu cyfle i gwrdd â phobl newydd o'r un meddylfryd o gefndiroedd amrywiol y gallwch rannu syniadau a thrafod atebion ar gyfer dyluniadau a chanlyniadau â nhw.
Gan symud tuag at leihau'r ddibyniaeth ar sbwng blodau, caiff technegau traddodiadol a blaengar eu defnyddio i greu rhai trefniadau heb ddefnyddio sbwng blodau.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Gwybodaeth am ddeunyddiau planhigion.
- Sgiliau ymdrin â deunyddiau planhigion a gofalu amdanynt.
- Arddulliau a thechnegau dylunio.
- Cyfloedd i fod yn greadigol.
- Gweithgareddau ymarferol.
Bydd dysgwyr yn derbyn y canlynol:
- Dysgu wyneb yn wyneb.
- Arddangosiadau sgiliau dylunio.
- Arweiniad ac adborth gan diwtoriaid.
Taflenni arweiniad ar-lein (Google Classroom).
Sylwer: Bydd disgwyl i ddysgwyr ddarparu eu deunydd planhigion, eu hoffer a'u cyfarpar eu hunain.
Fformat dysgu: Wyneb i wyneb.
Côd y cwrs: EM092472.LG