Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trefnu blodau lefel uwch [Dydd Mercher 1.00pm - 3.00pm] EN042583LG

Dydd Mercher 30 Ebrill 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 0
Dim rhagor ar gael
Amser dechrau 13:00
15:00
Pris £30.00
The ARC / Communities for Work

Gyda Liz Gordon. Dysgu sgiliau sy'n fwy datblygedig a'r technegau sy'n ofynnol i greu dyluniadau blodau arloesol.

Hyd - 10 wythnos.

Mae trefnu blodau a deunyddiau planhigion yn weithgaredd hwyl, creadigol a therapiwtig sy'n gallu rhoi llawer o foddhad ac mae'n gallu gwella ein lles.

Drwy gydol y flwyddyn mae natur yn darparu deunyddiau planhigion hyfryd ar gyfer trefnu blodau sydd ar gael yn rhwydd mewn gerddi a gwrychoedd.  Bydd dysgwyr yn defnyddio deunyddiau planhigion tymhorol i greu dyluniadau blaengar ar gyfer y cartref ac ar gyfer digwyddiadau ac achlysuron arbennig.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau a'r technegau i chi greu dyluniadau cyfoes a thraddodiadol.

Caiff dysgwyr eu hannog i fod yn ddychmygus ac yn greadigol, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad a oedd ganddynt yn flaenorol. Gan symud tuag at leihau'r ddibyniaeth ar sbwng blodau, caiff technegau traddodiadol a blaengar eu defnyddio i greu rhai trefniadau heb ddefnyddio sbwng blodau.

Mae gweithio gyda phobl eraill mewn lleoliad ystafell ddosbarth yn darparu cyfle i gwrdd â phobl newydd o'r un meddylfryd o gefndiroedd amrywiol y gallwch rannu syniadau a thrafod atebion ar gyfer dyluniadau a chanlyniadau â nhw.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Gwybodaeth am ddeunyddiau planhigion.
  • Sgiliau ymdrin â deunyddiau planhigion a gofalu amdanynt.
  • Arddulliau a thechnegau dylunio uwch.
  • Cyfleoedd i fod yn greadigol ac yn arloesol.
  • Gweithgareddau ymarferol.


Bydd dysgwyr yn derbyn y canlynol:

  • Dysgu wyneb yn wyneb.
  • Arddangosiadau o sgiliau dylunio uwch.
  • Arweiniad ac adborth gan diwtoriaid.
  • Taflenni arweiniad ar-lein (Google Classroom).


Fformat dysgu: Wyneb i wyneb.

Côd y cwrs : EN042583LG

The ARC / Communities for Work

45 Broughton Avenue

Portmead

Swansea

SA5 5JS

United Kingdom

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Amserau eraill ar Dydd Mercher 30 Ebrill

Dim enghreifftiau o hyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu