Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Sbaeneg i Ddechreuwyr - Canolradd [Dydd Llun 2.30pm - 4.00pm] EN042581CJ

Dydd Llun 28 Ebrill 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 2
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 14:30
16:00
Pris £30.00
The ARC / Communities for Work

Gyda Carolyn Jones. Dewch i ddechrau ar eich taith i ddysgu'r iaith hyfryd hon mewn amgylchedd grŵp cadarnhaol a chefnogol. O'r diwrnod cyntaf, byddwch yn siarad Sbaeneg ym mhob dosbarth. Byddwn hefyd yn dysgu i wella'n sgiliau gwrando, yn ogystal â darllen ac ysgrifennu yn Sbaeneg.

Hyd - 10 wythnos.


Mae'r dosbarth hwn ar gyfer dechreuwyr sydd â pheth gwybodaeth o Sbaeneg. Ein prif ffocws yw eich galluogi i gyfathrebu yn Sbaeneg ac i ddysgu am wledydd a diwylliannau'r bryd Sbaeneg - yn Sbaeneg!

Byddwn yn gweithio'n unigol, mewn parau, mewn grwpiau bach ac fel dosbarth i adeiladu'n sgiliau, ein gwybodaeth a'n hyder mewn siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu a deall Sbaeneg.


Bydd elfennau'r gweithdy hwn yn cynnwys: 

  • Siarad yn Sbaeneg o'r diwrnod cyntaf, ac yn ystod pob diwrnod o'r dosbarth.
  • Cysylltu'ch gwybodaeth o ieithoedd eraill, fel Cymraeg a Saesneg, â Sbaeneg.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau a gemau a fydd yn gwella'ch sgiliau a'ch hyder.
  • Darllen yn Sbaeneg at ddibenion ymarferol, fel deall bwydlenni, a gwella'ch gwybodaeth o wledydd sy'n siarad Sbaeneg: eu bwyd a mwy.
  • Cynllunio ac actio deialog a sgitiau, a fydd yn eich galluogi i ymarfer defnyddio Sbaeneg mewn sefyllfaeoedd bywyd go iawn fel cyfarch pobl, archebu mewn caffi a gofyn am help.
  • Defnyddio adnoddau ar-lein i wella dysgu.


Bydd sesiynau'n cynnwys: 

  • Dysgu wyneb y wyneb.
  • Defnyddio llyfryn dysgu a luniwyd gan athro.
  • Darllen yn Sbaeneg.
  • Gwylio fideos ar-lein yn y dosbarth i wella'r dysgu.


Fformat dysgu: Wyneb i wyneb.

Côd y cwrs: EN042581CJ

The ARC / Communities for Work

45 Broughton Avenue

Portmead

Swansea

SA5 5JS

United Kingdom

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Amserau eraill ar Dydd Llun 28 Ebrill

Dim enghreifftiau o hyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu