Rhaglen Coedwriaeth Dreftadaeth [Dydd Gwener 10.00am - 4.00pm] EM092501SM
Cynhelir y cwrs hwn yn yr awyr agored yng Nghoed Cwm Penllergare; ceir mynediad at y dosbarth ar hydllwybr anwastad.
Gyda Stuart Mackinnon. Mae'r rhaglen Coedwriaeth Dreftadaeth yn cynnig y cyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau gwaith pren traddodiadol a hanesyddol.
Mae'r rhaglen yn cwmpasu ystod o feysydd o ddefnyddio a chynnal a chadw offer llaw i weithio gyda phren gwyrdd i gynhyrchu eitemau crefft gwledig, o lwyau i gadeiriau. Bydd dysgwyr yn dysgu yn yr awyr agored yng Nghoed Cwm Penllergaer. Mae'r rhaglen yn cynnwys 4 modiwl ar wahân sy'n ymgorffori unedau a achredir gan Agored Cymru. Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau llyfr gwaith ar gyfer pob uned gyda chefnogaeth y tiwtor. Mae pob uned yn cynnwys o leiaf 6 sesiwn.
Mae Modiwl 1 (Offer Llaw) yn dechrau ddydd Gwener 22 Medi, 10am tan 3pm ac yn gorffen ar 27 Hydref. Trafodir dyddiadau unedau 2, 3 a 4 â'r dysgwyr
Mae 8 lle ar gael ar y cwrs hwn.
Fformat dysgu: Wyneb yn wyneb.
Côd y cwrs: EM092501SM