Garddio i ddechreuwyr [Dydd Gwener 10.00am-12.00pm] EM042596CF
Gyda Connor Furneaux. Dewch i ddarganfod pleserau tyfu eich planhigion eich hun.
Hyd - 10 wythnos
Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn garddio ac sydd am ddysgu am y camau y maae angen eu cymryd i dyfu eich blodau a'ch planhigion eich hun. Gallwch fod yn ddechreuwr pur neu rywun sydd am gael gwybodaeth ychwanegol yn y maes hwn.
Bydd ein tiwtor cyfeillgar yn eich arwain trwy brosiectau bach, gan roi argymhellion a chyngor i chi yn ystod y 10 sesiwn. Byddwn yn dangos i chi sut i wneud y mwyaf o'ch mannau gwyrdd, boed yn ardd, yn falconi neu'n flwch ffenestr.
Bydd elfennau'r gweithdy hwn yn cynnwys:
- Sut i blannu - dyfnder, dwysedd ac amserlen.
- Basgedi crog.
- Plannu cydymaeith ac mewn lleoedd bach.
- Chwynnu - beth, pryd, sut.
- Crefft dyfrio.
- Adeiladu eich dysgl plannu eich hun.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Dysgu wyneb yn wyneb
- Hyfforddiant, offer, menig, planhigion, hadau.
Cwrs: Garddio i ddechreuwyr
Fformat dysgu: Wyneb yn wyneb
Côd y cwrs: EM042596CF