Ffotograffiaeth Digidol am Ddechreuwyr Llwyr [Dydd Llun 9.30am - 11.30am] DL012586.AH
Dyddiadau'r tymor: yr wythnos sy'n dechrau 20 Ionawr 2025 - yr wythnos sy'n dod i ben ar 4 Ebrill 2025.
Hyd - 10 wythnos.
Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i ffotograffiaeth ddigidol i ddechreuwyr a bydd yn helpu myfyrwyr i ddeall eu cyfarpar a swyddogaethau eu camerâu.
Bydd y cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sy'n hollol newydd i ffotograffiaeth ddigidol. Caiff sesiynau eu cynnal wyneb yn wyneb. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymarfer yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu rhwng y sesiynau ac efallai bydd tasgau'n cael eu gosod i gynorthwyo'u dysgu. Mae'n bosib y cynhelir teithiau maes 2 dosbarth fel rhan o'r cwrs 10 wythnos hwn.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Prif foddau'r camera a gosodiadau'r ddewislen.
- Gosodiadau â llaw.
- Cyfansodiad - ffurf, llinell a lliw.
- Deall egwyddorion ffotograffig sylfaenol.
- Deall cyflymder caead y 'Triongl Dinoethiad', ISO a'r agorfa (hyd ffocws y lens a dyfnder ffocws).
- Sut i gael dinoethiad da - a chael rhoeolaid greadigol.
- Dilynir ffotograffiaeth taith maes gan ddadansoddi delweddau, adborth a thrafodaeth.
- Lensys: teleffoto, ongl lydan a chlosio.
- Ffotograffiaeth lens graff (golwg agos).
- Lanlwytho delweddau i'ch cyfrifiadur a rheoli ffeiliau yn ôl y gofyn.
- Cyflwyniad i brif ddefnyddiau meddalwedd golygu delweddau: Photoshop, Paint.net a Gimp.org
Darperir taflenni y gellir eu hargraffu yn ystod y sesiynau. Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Fformat dysgu: Wyneb yn wyneb.
Côd y cwrs: DL012586.AH