Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ffotograffiaeth Digidol i Ddechreuwyr [Dydd Llun 10.00am-12.00pm] DL042586AH

Dydd Llun 28 Ebrill 2025
Argaeledd sydd ar ôl: 6
Cadw lle mewn digwyddiad
Amser dechrau 10:00
12:00
Pris £30.00
Montana Park Community Centre

Hyd - 10 wythnos.

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i ffotograffiaeth ddigidol i ddechreuwyr a bydd yn helpu myfyrwyr i ddeall eu cyfarpar a swyddogaethau eu camerâu.

Bydd y cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sy'n hollol newydd i ffotograffiaeth ddigidol. Caiff sesiynau eu cynnal wyneb yn wyneb. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymarfer yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu rhwng y sesiynau ac efallai bydd tasgau'n cael eu gosod i gynorthwyo'u dysgu. Mae'n bosib y cynhelir teithiau maes 2 dosbarth fel rhan o'r cwrs 10 wythnos hwn.


Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Prif foddau'r camera a gosodiadau'r ddewislen.
  • Gosodiadau â llaw.
  • Cyfansodiad - ffurf, llinell a lliw.
  • Deall egwyddorion ffotograffig sylfaenol.
  • Deall cyflymder caead y 'Triongl Dinoethiad', ISO a'r agorfa (hyd ffocws y lens a dyfnder ffocws).
  • Sut i gael dinoethiad da - a chael rhoeolaid greadigol.
  • Dilynir ffotograffiaeth taith maes gan ddadansoddi delweddau, adborth a thrafodaeth.
  • Lensys: teleffoto, ongl lydan a chlosio.
  • Ffotograffiaeth lens graff (golwg agos).
  • Lanlwytho delweddau i'ch cyfrifiadur a rheoli ffeiliau yn ôl y gofyn.
  • Cyflwyniad i brif ddefnyddiau meddalwedd golygu delweddau: Photoshop, Paint.net a Gimp.org

Darperir taflenni y gellir eu hargraffu yn ystod y sesiynau. Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Fformat dysgu: Wyneb yn wyneb.

Côd y cwrs: DL042586AH

Montana Park Community Centre

Montana Place

Landore

Swansea

SA12QB

United Kingdom

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Amserau eraill ar Dydd Llun 28 Ebrill

Dim enghreifftiau o hyn

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu