Gwybodaeth ddefnyddiol am wythnos yr ŵyl
Bydd gan bob lleoliad gofal plant a chwarae sy'n mynd i ddigwyddiad mewn llyfrgell yn ystod wythnos yr ŵyl hawl i adnoddau am ddim i fynd â nhw yn ôl i'w lleoliad. (Tra bod stoc ar gael).
Mae dolen wedi'i darparu gyda rhestr o'r holl gyfeiriadau a manylion cyswllt ar gyfer y gweithgareddau AM DDIM mewn llyfrgelloedd a restrir ar yr amserlen Llyfrgelloedd yn Abertawe
Mae pum Canolfan Cymorth Cynnar yn Abertawe, sy'n cwmpasu ardaloedd y Dwyrain, Penderi, Townhill, y Cwm a'r Gorllewin Isod ceir rhestr o gyfeiriadau llawn yr holl Ganolfannau Cymorth Cynnar a restrir ar yr amserlen.
Does dim angen cadw lle ar gyfer gweithgareddau yn y llyfrgell, Canolfannau Cymorth Cynnar Abertawe a Chylch Meithrin Gellionnen, ond gofynnwn i chi eu ffonio neu anfon e-bost atyn nhw cyn eich ymweliad.
Mae Canolfan Blant Abertawe a Golwg y Mynydd yn cynnig archebion AM DDIM i ddefnyddio'u hystafell synhwyraidd drwy'r wythnos. Gellir archebu'r ystafell drwy ffonio'r tîm ar: 01792 468584 ar gyfer Golwg y Mynydd a 01792 572060 ar gyfer Canolfan Blant Abertawe.