Côd Ymddygiad Cyfranogwyr Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Abertawe
Croeso i Gynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) Abertawe.
Rydym yn falch eich bod wedi ymuno ac rydyn ni yma i'ch helpu ar eich taith am 16 wythnos. Gweler côd ymddygiad cyfranogwyr y Cynllun NERS, lle bydd cyfranogwyr yn gwneud y canlynol:
- Cael eu hannog i ymrwymo i gynllun hyd at 16 wythnos o hyd
- Talu £2.50 am sesiynau NERS
- Sicrhau bod ganddynt eu llyfrynnau o'u rhaglenni pan fyddant yn gwneud ymarfer corff ar bob adeg a sicrhau eu bod yn dilyn y rhaglen a roddwyd iddynt gan y Gweithiwr Proffesiynol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (ERP). Gall methu â dod â'ch llyfryn olygu na allwchwneud ymarfer corff.
- Sicrhau eu bod yn gwisgo dillad addas i'r sesiynau, e.e. dillad hamdden/llac, esgidiau rhedeg, etc., a chofio dod â dŵr
- Mynd i adolygiadau 4, 8 ac 16 wythnos gyda'r ERP
- Rhoddir mynediad at sesiynau ar wahân i'r sesiynau NERS dim ondpan fydd yr ERP yn teimlo bod hynny'n addas (ac ar ôl ei drafod yn yr adolygiad 4 wythnos neu ar ôl hynny)
- Cytuno mai cyfrifoldeb yr ERPyw symud y rhaglenni yn eu blaen, nid aelodau staff y gampfa
- Sicrhau eu bod yn dod ag unrhyw feddyginiaethau i'r sesiynau yn ôl cyfarwyddiadau gweithiwr meddygol proffesiynol, e.g. pympiau asthma, chwistrell GTN, etc.
- Sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i'r ERP am unrhyw anafiadau a/neu newidiadau yn eu statws iechyd neu feddyginiaethau'n syth
- Rhannu unrhyw bryderon neu gwynion drwy'r sianeli priodol
- Derbyn y côd ymddygiad gan y bydd methu â chydymffurfio'n golygu y bydd eich atgyfeiriad yn cael ei wrthod ac fe'ch tynnir yn ôl o'r rhaglen.
Sesiynau
- Mae archebu sesiynau ymlaen llaw'n hanfodol gan y bydd lleoedd cyfyngedig mewn rhai sesiynau, felly mae archebu'n hanfodol.
Sylwer: RHAID archebu sesiynau ar safleoedd Freedom Leisure ar-lein neu'n uniongyrchol â'r dderbynfa dros y ffôn.
Sylwer: Rhaid archebu sesiynau ar safleoedd cymunedol (nad ydynt dan Freedom Leisure), e.e. Hazel Court drwy'r ERP
- Sesiwn y telir amdani'n unol â gweithdrefnau'r rhaglen a'r cyfleusterau
Cadw at amserau cytunedigy sesiynau (peidiwch â chyrraedd yn rhy gynnar am y sesiwn oherwydd ni fyddwch yn gallu cael mynediad)
Sylwer: mae gan rai sesiynau bwynt cyfarfod cytunedig, lle bydd yr ERP yn cwrdd â chi cyn mynd i'r sesiwn (bydd yr ERP yn eich hysbysu pa sesiynau y mae hyn yn ofynnol amdanynt)
- Os na allwch ddod i sesiwn
oherwydd eich bod ar wyliau, rhowch wybod i'r ERP na fyddwch yn gallu dod i'r sesiwn er mwyn ei hysbysu am eich absenoldeb
oherwydd salwch, canslwch eich sesiwn cyn gynted â phosib
ar gyfer sesiynau Freedom Leisure: cysylltwch â'r safle hamdden yn uniongyrchol
ar gyfer sesiynau cymunedol: cysylltwch â'r ERP sy'n cynnal y sesiynau
- Bydd yr ERP yn penderfynu a roddir mwy o amser oherwydd sesiwn a gollwyd (siaradwch â'r ERP ynghylch hyn)
- Gwneud ymarfer corff yn ystod sesiynau NERS dim ond pan fydd yr hyfforddwr sy'n ERP yn bresennol(oni bai y cytunir yn wahanol gyda'r ERP)
- Gellir cysylltu â nhw os bydd angen canslo'r sesiwn; byddwn ni (NERS Abertawe) yn ceisio cysylltu â chi neu â pherson dynodedig. Yn yr achosion prin lle na fydd negeseuon wedi'u derbyn, mae'r cyfranogwr yn gyfrifol am ei ddiogelwch/gludiant ei hun
- Peidiwch ag yfed alcohol neu gymryd cyffuriau ar wahân i'r rheini a roddwyd ar bresgripsiwn gan weithiwr meddygol proffesiynol
Cyfleuster
- Cyfranogi o fewn rheolau'r cyfleuster a phenderfyniadau'r ERP
gan gynnwys trin yr holl offer yn barchus a gwrando ar ERPs
SYLWER: Os oes angen i ofalwyr aros, rhaid iddynt hefyd ddilyn rheolau'r cyfleuster
- Parchu anghenion a lles defnyddwyr arall y cyfleuster.
Os hoffech drafod un o'r pwyntiau uchod, siaradwch â'ch ERP.
Llawer o ddiolch
Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff