COAST - Gwella - Golden Grooves
50+ oed.
Mae Golden Grooves yn cynnig cyfle gwych i ddod â'r gymuned ynghyd ac anghofio am ddiflastod y gaeaf drwy ddawnsio. Bydd y disgo crwydrol hwn yn dod i chwe lleoliad ar draws Abertawe lle byddwn yn eich gwahodd i wisgo'ch esgidiau dawnsio a rhoi cynnig ar rywbeth newydd!
Byddwn yn cyflwyno eich hoff ganeuon, llawer o gyfleoedd i dynnu lluniau a gemau difyr. Bydd pob sesiwn yn para am awr a hanner a'r gynulleidfa darged yw pobl dros 50 oed.
Mae'r sesiynau'n gynhwysol, yn groesawgar ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Mae croeso i bawb yn Golden Grooves, dewch i roi cynnig arni a chael ychydig o hwyl y gaeaf hwn!
Sesyniau:
4 Ionawr - Brynmill Park Community Centre
11 Ionawr - Canolfan y Bont, Pontarddulais
25 Ionawr - Victoria Hall, Mumbles
1 Chwefror - Upper Killay Community Centre
15 Chwefror - Morriston Memorial Hall
Manylion cyswllt:
E-bost: sarah.milligan@gwella.org.uk