COAST - BikeAbility Wales - Sesiynau beicio cymdeithasol
Gweithgareddau beicio am ddim i bobl dros 50 oed.
Rhaid i gyfranogwyr fod yn 50 oed ac yn hŷn ac yn gofalu am rywun sy'n 50 oed ac yn hŷn a rhaid iddynt fod yn byw yn Abertawe.
Sesiynau beicio cymdeithasol:
Sesiynau wythnosol ar foreau Mercher ar ein llwybr beicio preifat yng Nghlwb Rygbi Dyfnant, Broadacre, Abertawe SA2 7RU.
Gall cyfranogwyr roi cynnig ar ein hamrywiaeth eang o feiciau safonol ac wedi'u haddasu, siarad â'n staff arbenigol a gwirfoddolwyr a sgwrsio ag eraill.
I gadw lle, e-bostiwch: info@bikeability.org.uk
Gellir talu am gostau teithio pobl nad ydynt yn gallu cymryd rhan fel arall - cysylltwch â ni i drafod a ydych yn gymwys.